Datblygu a chyflwyno bwydlen sy’n bodloni safonau sefydliadol a thargedau ariannol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio a datblygu bwydlen sy’n gyson â’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan y sefydliad. Mae’n rhaid i’r fwydlen fod yn addas i anghenion cwsmeriaid presennol a marchnad targed y sefydliad, a bodloni targedau ariannol, hefyd. Nod y safon yw sicrhau bod y bobl sy’n gyfrifol yn y pen draw am ddarparu bwydlen, yn cydbwyso costau ac ansawdd, ac yn bodloni profiad bwyta’r cwsmer.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddatblygu a chyflwyno bwydlen sy’n bodloni safonau sefydliadol a thargedau ariannol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Casglu gwybodaeth am ofynion cwsmeriaid o amrywiaeth o ffynonellau
- Ystyried sgiliau, profiad ac anghenion hyfforddiant staff wrth gynllunio bwydlenni
- Cynllunio bwydlenni yn unol â’r cyfarpar a’r cyfleusterau sydd ar gael
- Cynllunio datblygiad bwydlenni yn y dyfodol yn unol â chynlluniau busnes y sefydliad
- Ymgynghori â phobl berthnasol o fewn y sefydliad
- Llunio bwydlen sy’n ymarferol yn logistaidd o ran amserau paratoi a phrotocolau’r gegin
- Ystyried ffynonellau cynnyrch a sicrhau bod y cyflenwad yn gyson â chynllun y fwydlen
- Ystyried y cwsmeriaid, y gofynion dietegol a’r anghenion ariannol wrth ddatblygu bwydlenni
- Dod o hyd i’r cynnyrch y mae ei angen am bris sy’n caniatáu’r meintiau elw gorau
- Cael y cynnyrch y mae ei angen o ffynonellau gwarantedig sy’n bodloni safonau ansawdd y sefydliad
- Defnyddio cynnyrch tymhorol lleol, lle bo’n bosibl ac yn briodol
- Cynnwys cyfuniadau o ryseitiau sy’n cydymffurfio ag arddull gwasanaeth y sefydliad a chynhyrchu bwydlen gytbwys, gan sicrhau eu bod yn greadigol ac yn llawn dychymyg
- Cadw cofnodion cywir o’r holl fwydlenni a ddatblygir
- Sicrhau bod disgrifiadau’r fwydlen yn gyson â gofynion cyfreithiol
- Adolygu a diweddaru’r fwydlen yn rheolaidd
- Datblygu seigiau a bwydlenni sy’n addas ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau
- Cynhyrchu’r fwydlen gywir ar gyfer faint o fwyd fydd yn cael ei gynhyrchu
- Ystyried cyfyngiadau’r tymhorau a’r effaith ar gostau yng nghyfrifiadau’r fwydlen
- Cyfrifo cyfrannau’r brif elfen o gymharu â chyfwydydd mewn seigiau a’r gost o’u lluosogi â rhifau amrywiol, yn ôl y gwasanaeth
- Cyfrifo’r cymysgedd gwerthiannau a chydbwysedd y pris a chynigion
- Casglu gwybodaeth am y prif ffynonellau refeniw ar gyfer y fwydlen
- Costio’r defnydd o egni a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy
- Cyfrifo cymarebau cost i faint yr elw yn unol â pholisi sefydliadol
- Cyfrifo cymarebau staffio
- Defnyddio costau i brisio seigiau yn gywir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Egwyddorion datblygu, treialu a phrofi ryseitiau newydd
- Polisi’r sefydliad ar gostau ac arddull y fwydlen
- Deddfwriaeth berthnasol, ystyriaethau dietegol a gofynion iechyd, diogelwch a hylendid
- Sut i gasglu gwybodaeth sy’n berthnasol i gynllunio bwydlenni
- Sut i asesu bod bwydlenni yn cydymffurfio â pholisi sefydliadol a deddfwriaeth
- Marchnad darged y sefydliad a’u gofynion
- Gwahanol seigiau a bwydlenni sy’n addas ar gyfer fformatau gwasanaeth gwahanol
- Sut i gydbwyso bwydlenni
- Sut i ddefnyddio adnoddau’n effeithiol
- Sut i ddod o hyd i ganllawiau maethol priodol
- Sut i ddadansoddi cyfansoddiad maethol bwydlenni
- Sut i fonitro, adolygu a gwerthuso bwydlenni
- Sut i gael yr adnoddau ar gyfer syniadau newydd i fwydlenni
- Gweithdrefnau prynu’r sefydliad ar gyfer cynnyrch
- Sut i gostio seigiau a bwydlenni
- Polisi’r sefydliad ar gynaliadwyedd
- Costau defnyddio, costau cyfarpar a refeniw o ffynonellau amrywiol
- Sut i ddelio â chyflenwyr a’u rheoli
- Y tueddiadau diweddaraf a dewisiadau cwsmeriaid
- Effaith newidiadau ehangach yn yr economi, yr hinsawdd economaidd gyfredol a’i heffaith bosibl
- Cwmpas a chyfyngiadau cyfarpar sydd ar gael
- Pris presennol cynnyrch ar y farchnad
Cwmpas/ystod
1. Gofynion dietegol
1.1 cydbwysedd maethol
1.2 meddygol
1.3 alergenau
1.4 crefyddol
1.5 fegan / llysieuol
1.6 diwylliannol
2. Adnoddau
2.1 staff
2.2 cyfarpar
2.3 cyflenwadau
2.4 cyfleusterau
2.5 amser
2.6 arian
2.7 rheoli gwastraff
3. Digwyddiadau
3.1 cynadleddau
3.2 priodasau
3.3 digwyddiadau bwyd moethus
4. Bwydlenni
4.1 brecwast
4.2 cinio
4.3 swper
4.4 te prynhawn
4.5 byrbryd
4.6 bwydlenni digwyddiadau / digwyddiadau arbennig
5. Gwybodaeth am gostau
5.1 cymarebau cost i elw
5.2 ffigurau refeniw
5.3 costau egni
5.4 costau staffio
6. Gwybodaeth sy’n berthnasol i gynllunio bwydlenni
6.1 data cwsmeriaid
6.2 ffigurau refeniw
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ffynonellau data sydd ar gael
Er enghraifft: gwerthiannau, eitemau poblogaidd ac arloesol ar y fwydlen, ffynonellau ryseitiau eraill, amgyffredion cwsmeriaid neu arolygon boddhad
Ffynonellau cynnyrch
Er enghraifft: cyflenwyr ansawdd cymeradwy, cyflenwyr eraill, tarddiad, stampiau ansawdd, ystod y cynnyrch derbyniol, bwyd tymhorol, bwyd wedi’i chwilota
Cynaliadwyedd
Ôl troed carbon, proses foesegol foesol yn gysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi, gofynion dietegol diwylliannol