Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â deall rheoliadau diogelwch bwyd a rôl archwiliadau diogelwch bwyd wrth sicrhau bod diogelwch bwyd yn cael ei gynnal. Mae hyn yn cynnwys deall y ddogfennaeth y mae ei hangen a chymhwyso gweithdrefnau arolygu ac archwilio yn ymarferol i sicrhau bod safonau’n cael eu bodloni.
Bydd angen i chi ddeall rôl systemau rheoli diogelwch bwyd, fel HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol), a sut gallant gael eu cymhwyso’n effeithiol i sicrhau diogelwch bwyd. Argymhellir y safon i uwch gogyddion sydd â chyfrifoldeb rheolwr am dîm gweithredol.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Reoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod systemau rheoli diogelwch bwyd yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol perthnasol
- Neilltuo rolau a chyfrifoldebau rheoli diogelwch bwyd i staff
- Neilltuo adnoddau priodol i sicrhau bod systemau rheoli diogelwch bwyd yn cael eu cynnal yn effeithiol
- Hyfforddi a briffio staff ar sut i weithio’n ddiogel a chadw cofnodion hyfforddi cywir, cyfredol
- Dadansoddi risgiau peryglon microbaidd, ffisegol, cemegol ac alergenig i ddiogelwch bwyd mewn sefydliad
- Cyfleu gwybodaeth rheoli diogelwch bwyd i staff, ymwelwyr a chyflenwyr
- Gweithredu’r camau rheoli sy’n ofynnol i reoli diogelwch bwyd yn unol â gofynion sefydliadol
- Monitro a chofnodi peryglon diogelwch bwyd a sicrhau bod camau cywirol priodol yn cael eu cymryd
- Monitro hylendid staff a’u bod yn cydymffurfio â gweithdrefnau
- Defnyddio adolygiadau, adborth gan staff ac archwiliadau i werthuso effeithiolrwydd gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gofynion allweddol, gan gynnwys pwyntiau rheoli critigol a therfynau critigol, gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd y sefydliad
- Rôl systemau rheoli diogelwch bwyd yn seiliedig ar egwyddorion HACCP wrth ddiogelu bwyd a sut mae HACCP yn berthnasol i sefydliad
- Rolau, cyfrifoldebau a lefelau awdurdod disgwyliedig aelodau o dîm rheoli diogelwch bwyd
- Yr effaith y gall diwylliant diogelwch cadarnhaol ei chael ar weithredu arferion gweithio diogel yn effeithiol
- Galluoedd a chyfyngiadau aelodau tîm a’r effaith y gall hyn ei chael ar ddiogelwch bwyd
- Y dulliau sefydliadol a ddefnyddir i hyfforddi ac asesu cymhwysedd aelodau tîm
- Y mathau o weithgarwch hyfforddi a datblygu y gellir eu defnyddio i fynd i’r afael â phroblemau’n gysylltiedig â diogelwch bwyd
- Y gwahaniaethau rhwng amrywiol lefelau cymhwyster a hyfforddiant o ran diogelwch bwyd a beth mae’r rhain yn ei nodi o ran sgiliau a gwybodaeth unigolion
- Gofynion hylendid personol a’u gweithredu
- Glanhau a chynnal a chadw gofynnol cyfarpar a’r amgylchedd
- Amodau gwaith ac amgylcheddol allweddol a all achosi bygythiad i ddiogelwch bwyd
- Dulliau cywir o wahanu, storio a gwaredu gwastraff a chynhyrchion / seigiau sydd wedi’u difrodi neu eu halogi
- Camau ataliol o ran rheoli lledaeniad neu gynnydd yn halogiad neu draws-halogiad cynhyrchion
- Ffynonellau a mathau o halogiad a thraws-halogiad cynhyrchion, dirywiad cynnyrch a chynhyrchion sydd wedi difetha, a sut i’w hadnabod
- Dulliau o fonitro a gwirio cydymffurfiad â therfynau critigol a sut i weithredu’r dulliau hyn
- Buddion a dulliau gweithdrefnau gweithredu safonol (SOPs) ac arferion gweithio penodedig i ddiogelwch bwyd
- Defnyddio archwiliadau wrth fonitro cydymffurfio â SOPs
- Camau cywirol os na fydd cydymffurfio â therfynau critigol
- Sut i asesu gofynion am gymorth, gwybodaeth a chyngor ychwanegol
- O ble y gellir ceisio gwybodaeth ddibynadwy a chyfredol i helpu llywio rhoi camau diogelwch bwyd ar waith