Paratoi dofednod ar gyfer seigiau cymhleth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi dofednod ar gyfer seigiau cymhleth. Mae’n ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi a mathau o ddofednod.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi dofednod ar gyfer seigiau cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi dofednod ar gyfer seigiau cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o ddofednod a faint sydd eu hangen i’w paratoi
- Gwirio bod y dofednod yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi’r dofednod
- Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi’r dofednod
- Paratoi’r dofednod i gynnal ansawdd ac i fodloni gofynion y saig
- Storio unrhyw ddofednod a baratowyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Prif nodweddion gwahanol fathau o ddofednod
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn dofednod ffres
- Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r dofednod neu gynhwysion eraill
- Gwerthoedd maethol pob math o ddofednod
- Sut i ddewis y math cywir o ddofednod, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y saig
- Toriadau addas ar gyfer pob math o ddofednod
- Y gyfran fras a geir o ddofednod wedi’u paratoi
- Sut i reoli dognau i leihau gwastraff
- Dulliau paratoi ar gyfer gwahanol seigiau dofednod cymhleth
- Y tueddiadau presennol yn gysylltiedig â pharatoi seigiau dofednod cymhleth
- Beth yw’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol
- Sut i storio dofednod wedi’u paratoi
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi dofednod ar gyfer seigiau cymhleth
Cwmpas/ystod
1. Dofednod
13.1 hwyaden
13.2 iâr gini
13.3 gŵydd
13.4 cyw iâr
13.5 twrci
13.6 cywen (poussin)
2. Dulliau paratoi
2.1 gwirio a pharatoi’r ceudod
2.2 tynnu’r esgyrn
2.3 sesno
2.4 marinadu
2.5 trimio
2.6 torri
2.7 ballotine
2.8 blendio
2.9 hidlo
2.10 stwffio / llenwi
2.11 clymu / rhwymo
2.12 galantine