Coginio a gorffen seigiau cig cymhleth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â choginio a gorffen seigiau cig cymhleth, er enghraifft:
• osso bucco
• coes cig oen wedi’i rhostio mewn pot
• wellington cig eidion
Mae’r safon yn ymwneud â’r darnau gorau a’r darnau eilaidd o amrywiaeth
o gigoedd. Yna, mae’n mynd ymlaen i ddisgrifio’r dulliau coginio a’r technegau gorffen sy’n gysylltiedig â seigiau cig cymhleth.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i goginio a gorffen seigiau cig cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Goginio a gorffen seigiau cig cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gig a faint sydd ei angen ar gyfer y saig
- Gwirio’r cig i sicrhau ei fod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i goginio a gorffen y cig
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth goginio a gorffen y cig
- Cyfuno’r cig â chynhwysion eraill
- Coginio’r cig i fodloni gofynion y saig
- Sicrhau bod gan y saig y blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
- Garneisio a chyflwyno’r saig i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y saig ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
- Storio unrhyw gig wedi’i goginio na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i ddewis y math cywir o gig, ei ansawdd a faint sydd ei angen i fodloni gofynion y saig
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cig
- Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r cig neu gynhwysion eraill
- Beth yw’r offer a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau coginio gofynnol
- Sut i gyfuno cig â chynhwysion eraill i greu saig gymhleth a chytbwys
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau coginio yn unol â gofynion y saig
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio pob math o gig gan ddefnyddio pob dull coginio a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
- Sut i wirio ac addasu blas, tewychedd a lliw’r saig cig gymhleth
- Pa ddulliau coginio sy’n briodol i bob math o saig cig gymhleth a sut i wirio bod y cig wedi’i goginio’n gywir
- Sut i leihau a chywiro camgymeriadau cyffredin mewn seigiau cig cymhleth
- Y dulliau gorffen priodol ar gyfer amrywiaeth o seigiau cig cymhleth
- Y tueddiadau a’r methodolegau presennol yn gysylltiedig â choginio a gorffen seigiau cig cymhleth
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau cig cymhleth
- Sut i storio seigiau cig cymhleth na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth goginio a gorffen seigiau cig cymhleth
Cwmpas/ystod
1. Cig
15.1 cig eidion
15.2 cig oen
15.3 porc
15.4 cig llo
2. Dulliau coginio
2.1 grilio (dros ac o dan wres)
2.2 ffrio (dwfn / bas / tro ffrio)
2.3 berwi
2.4 brwysio
2.5 stemio
2.6 stiwio
2.7 rhostio
2.8 rhostio mewn pot
2.9 sous vide
2.10 cyfuno dulliau coginio
3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 gyda saws / sgleinio / dresin
3.3 cyflwyno