Paratoi cig ar gyfer seigiau cymhleth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi cig ar gyfer seigiau cymhleth. Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi a mathau o gig.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi cig ar gyfer seigiau cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi cig ar gyfer seigiau cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gig a faint sydd ei angen i’w baratoi
- Gwirio bod y cig yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi’r cig
- Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi’r cig
- Paratoi’r cig i gynnal ansawdd ac i fodloni gofynion y saig
- Storio unrhyw gig a baratowyd na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Prif nodweddion gwahanol fathau o gig
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cig ffres
- Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r cig neu gynhwysion eraill
- Gwerthoedd maethol pob math o gig
- Sut i ddewis y math cywir o gig, ei ansawdd a faint sydd ei angen i fodloni gofynion y saig
- Toriadau addas ar gyfer pob math o gig
- Y gyfran fras a geir o gig wedi’i baratoi a sut i ddefnyddio sgil gynhyrchion
- Sut i reoli dognau i leihau gwastraff
- Dulliau paratoi ar gyfer gwahanol seigiau cig cymhleth
- Y tueddiadau presennol yn gysylltiedig â pharatoi seigiau cig cymhleth
- Beth yw’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol
- Sut i storio cig wedi’i baratoi
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi cig ar gyfer seigiau cymhleth
Cwmpas/ystod
1. Cig
13.1 cig eidion
13.2 cig oen
13.3 porc
13.4 cig llo
2. Dulliau paratoi
2.1 tynnu’r esgyrn
2.2 trimio
2.3 rholio
2.4 tyneru/breuo
2.5 gwahanu’r asgwrn cefn rhag yr asennau (chining)
2.6 clymu
2.7 lardio / gorchuddio â chig moch (barding)
2.8 rhannu’n ddognau yn ôl pwysau
2.9 rhannu’n ddognau ar gyfer y saig
2.10 sleisio
2.11 briwio
2.12 sesno / marinadu