Paratoi pysgod cregyn ar gyfer seigiau cymhleth

URN: PPL3PC4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi pysgod cregyn ffres ar gyfer seigiau cymhleth. Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi, a chramenogion a molysgiaid.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi pysgod cregyn ar gyfer seigiau cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi pysgod cregyn ar gyfer seigiau cymhleth


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o bysgod cregyn a faint sydd eu hangen i’w paratoi
  2. Gwirio bod y pysgod cregyn yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi’r pysgod cregyn
  4. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi’r pysgod cregyn
  5. Paratoi’r pysgod cregyn i gynnal ansawdd ac i fodloni gofynion y saig
  6. Storio unrhyw bysgod cregyn a baratowyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Prif nodweddion gwahanol fathau o bysgod cregyn
  2. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn pysgod cregyn ffres
  3. Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r pysgod cregyn neu gynhwysion eraill
  4. Sut i adnabod pysgod cregyn byw
  5. Sut i ddewis y math cywir o bysgod cregyn, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y saig
  6. Dulliau paratoi addas ar gyfer pob math o bysgod cregyn
  7. Y gyfran fras a geir o bysgod cregyn wedi’u paratoi
  8. Sut i reoli dognau i leihau gwastraff
  9. Dulliau paratoi ar gyfer gwahanol seigiau pysgod cregyn cymhleth
  10. Y tueddiadau presennol yn gysylltiedig â pharatoi seigiau pysgod cregyn cymhleth
  11. Beth yw’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol
  12. Sut i storio pysgod cregyn wedi’u paratoi
  13. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi pysgod cregyn ar gyfer seigiau cymhleth

Cwmpas/ystod

1. Pysgod cregyn
13.1 cramenogion
13.2 molysgiaid
13.3 seffapolod

2. Dulliau paratoi
2.1 glanhau
2.2 agor/tynnu’r gragen
2.3 golchi
2.4 marinadu
2.5 caenu
2.6 blendio
2.7 torri


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL3PC4

Galwedigaethau Perthnasol

Dirprwy Chef, Uwch Chef/Gogydd

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

paratoi, pysgod cregyn, cymhleth