Paratoi, coginio a gorffen pwdinau poeth cymhleth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen pwdinau poeth cymhleth, er enghraifft:
• soufflés poeth
• pwdinau crwst
• pwdinau ffrwyth
• pwdinau sbwnj
Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o dechnegau paratoi, coginio a gorffen sy’n gysylltiedig â phwdinau poeth cymhleth.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen pwdinau poeth cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen pwdinau poeth cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen ar gyfer y pwdin
- Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i baratoi, coginio a gorffen y saig
- Defnyddio offer, cyllyll a chyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y saig
- Paratoi a choginio’r cynhwysion i fodloni gofynion
- Sicrhau bod gan y pwdin y lliw, yr ansawdd a’r gorffeniad cywir
- Gorffen a chyflwyno’r pwdin i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y pwdin ar y tymheredd cywir i’w ddal a’i weini
- Storio unrhyw bwdin na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o bwdinau poeth cymhleth a’u nodweddion
- Sut i ddewis y math cywir o gynhwysion, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y saig
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt yng nghynhwysion y saig
- Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r cynhwysion
- Sut i reoli dognau a lleihau gwastraff
- Y dulliau paratoi priodol ar gyfer gwahanol bwdinau poeth cymhleth
- Effeithiau amrywiol dymereddau a lleithder ar y cynhwysion a ddefnyddir
- Beth yw’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio a gorffen gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen unol â gofynion y saig
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer, y cyllyll, y cyfarpar a’r technegau cywir wrth baratoi, coginio a gorffen pwdinau poeth cymhleth
- Problemau cyffredin a all ddigwydd wrth baratoi pwdinau poeth a sut i’w lleihau a’u cywiro
- Pa ddulliau paratoi, coginio a gorffen sy’n gysylltiedig â phob math o bwdin poeth cymhleth
- Beth yw’r pwyntiau ansawdd sy’n gysylltiedig â’r cynnyrch terfynol
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth goginio pwdinau poeth a sut i ddelio â’r rhain yn gywir
- Tueddiadau presennol yn gysylltiedig â phwdinau poeth
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi a choginio pwdinau poeth cymhleth
Cwmpas/ystod
1. Pwdinau
16.1 soufflés poeth
16.2 crwst
16.3 ffrwyth
16.4 sbwnj
2. Dulliau paratoi
2.1 hufennu
2.2 plygu
2.3 awyru
2.4 defnyddio mowldiau
2.5 ychwanegu braster
2.6 gwahanu / cyfuno lliwiau / blasau / cynhwysion
3. Dulliau coginio
3.1 stemio
3.2 ffrio dwfn
3.3 bain-marie
3.4 pobi
4. Dulliau gorffen
4.1 coginio crwst ar ben y pwdin
4.2 oeri
4.3 peipio
4.4 tynnu o fowldiau
4.5 sgleinio
4.6 rhannu’n ddognau