Paratoi, coginio a gorffen dresinau a sawsiau oer cymhleth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen dresinau a
sawsiau oer cymhleth, er enghraifft:
• saws tartar
• saws marchruddygl
• sawsiau wy wedi’u hemwlseiddio
• dresin a wnaed o olew
• sawsiau wedi’u tewychu â ffrwythau / ffacbys / llysiau
• sawsiau wedi’u tewychu â hufen
• sylfaen hufen sur / iogwrt
• coulis
Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o dechnegau paratoi, coginio a gorffen sy’n gysylltiedig â dresinau a sawsiau oer cymhleth.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen dresinau a sawsiau oer cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen dresinau a sawsiau oer cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen ar gyfer y dresin / saws
- Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i baratoi, coginio a gorffen y dresin / saws
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y dresin / saws
- Paratoi a choginio’r dresin / saws i fodloni gofynion
- Sicrhau bod gan y dresin / saws y blas, y lliw, a’r tewychedd cywir, a bod y maint yn gywir
- Gorffen a chyflwyno’r dresin / saws i fodloni gofynion
- Storio unrhyw ddresin / saws wedi’i goginio /wedi’i baratoi na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o ddresinau a sawsiau oer a’u nodweddion
- Sut i ddewis y math cywir o gynhwysion, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y saig
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cynhwysion saws / dresin
- Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r cynhwysion
- Beth yw’r offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen yn unol â gofynion y saig
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer, y cyfarpar a’r technegau cywir wrth baratoi, coginio a gorffen dresinau / sawsiau
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio dresinau / sawsiau a pham mae’r rhain hyn yn bwysig
- Sut i adnabod pan fydd gan ddresinau / sawsiau y lliw, y blas a’r tewychedd cywir, a bod y maint yn gywir
- Sut i addasu blas dresinau / sawsiau
- Sut i gyflwyno dresinau / sawsiau wedi’u coginio
- Y cyfwydydd a’r garnisiau priodol ar gyfer gwahanol ddresinau / sawsiau
- Pa bwyntiau ansawdd sy’n gysylltiedig â dresinau / sawsiau
- Sut i storio dresinau / sawsiau
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen dresinau / sawsiau
Cwmpas/ystod
1. Dresinau a sawsiau
15.1 sawsiau wy wedi’u hemwlseiddio
15.2 dresin a wnaed o olew
15.3 sawsiau wedi’u tewychu â ffrwythau / ffacbys / llysiau
15.4 sawsiau wedi’u tewychu â hufen
15.5 sylfaen hufen sur / iogwrt
15.6 coulis
2. Dulliau paratoi, coginio a gorffen
2.1 pwyso a mesur
2.2 berwi
2.3 mudferwi
2.4 lleihau
2.5 torri
2.6 chwisgo
2.7 blansio
2.8 hidlo/troi
2.9 hylifo/blendio
2.10 emwlseiddio
2.11 sgimio
2.12 cyflwyno
2.13 ychwanegu cyfwyd
2.14 garneisio