Paratoi, gorffen a chyflwyno canapés a bwydydd coctel
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu canapés a bwydydd coctel, er enghraifft:
• canapés
• wyau sofliar mewn cig selsig
• beignets pysgod wedi’u cochi
• macarons sawrus
• brochettes coctel
• bouchées
Mae’r safon yn ymwneud â’r holl dechnegau paratoi, gorffen a chyflwyno sy’n gysylltiedig â canapés a bwydydd coctel.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, gorffen a chyflwyno canapés a bwydydd coctel; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, gorffen a chyflwyno canapés a bwydydd coctel
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen ar gyfer y cynnyrch
- Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer, cyllyll a’r cyfarpar cywir i baratoi, gorffen a chyflwyno canapés a bwydydd coctel
- Defnyddio offer, cyllyll a chyfarpar yn gywir wrth baratoi, gorffen a chyflwyno canapés a bwydydd coctel
- Paratoi a gorffen y cynhwysion i fodloni gofynion
- Sicrhau bod gan y canapés a bwydydd coctel y blas, y lliw a’r ansawdd cywir, a bod eu maint yn gywir
- Addurno a chyflwyno canapés a bwydydd coctel i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y canapés a bwydydd coctel ar y tymheredd cywir i’w dal a’u gweini
- Storio unrhyw canapés a bwydydd coctel wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o canapés a bwydydd coctel a’u nodweddion
- Sut i ddewis y math cywir o gynhwysion, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y cynnyrch
- Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r cynhwysion
- Beth yw’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio, gorffen a chyflwyno gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio, gorffen a chyflwyno yn unol â gofynion y cynnyrch
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer, y cyllyll, y cyfarpar a’r technegau cywir wrth baratoi, gorffen a chyflwyno canapés a bwydydd coctel
- Sut i adnabod pan fydd gan canapés a bwydydd coctel y lliw, y blas a’r ansawdd cywir, a bod y maint yn gywir
- Camgymeriadau cyffredin gyda canapés a bwydydd coctel a sut i’w lleihau a’u cywiro
- Eitemau all gael eu defnyddio i addurno cynhyrchion
- Sut i addurno cynhyrchion a chyflwyno canapés a bwydydd coctel
- Sut i ddelio ag eitemau sy’n cael eu dychwelyd o’r bwffe neu eitemau sydd heb eu bwyta gan gwsmeriaid
- Tueddiadau presennol yn gysylltiedig â canapés a bwydydd coctel
- Sut i storio canapés a bwydydd coctel
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, gorffen a chyflwyno canapés a bwydydd coctel
Cwmpas/ystod
1. Canapés a bwydydd coctel
14.1 canapés poeth
14.2 canapés oer
14.3 wedi’u gwneud o gig
14.4 wedi’u gwneud o bysgod
14.5 wedi’u gwneud o lysiau
14.6 melys
2. Dulliau paratoi, coginio a gorffen
2.1 pobi
2.2 sleisio
2.3 llenwi
2.4 arllwys
2.5 cymysgu
2.6 oeri
2.7 torri
2.8 peipio
2.9 taenu
2.10 rhoi ar sgiwer
2.11 garneisio
2.12 cyflwyno