Paratoi, coginio a chyflwyno cynhyrchion oer cymhleth

URN: PPL3PC20
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu cynhyrchion oer cymhleth, er enghraifft:
• cig coch wedi’i goginio
• cig gwyn wedi’i goginio
• golwython o gig
• dofednod wedi’u coginio
• saladau
• ffrwythau a llysiau
• wyau
• cynhyrchion sy’n cynnwys startsh
• pysgod (cyfan ac wedi’u rhannu’n ddognau)
• helgig
• cynnyrch llaeth
• reis
• terinau
• pate
• eitemau wedi’u cochi
• mousses
• tameidiau i aros pryd sawrus / bwffe

Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi, coginio a gorffen sy’n gysylltiedig â chynhyrchion oer cymhleth.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion oer cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion oer cymhleth


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen ar gyfer y cynnyrch
  2. Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer, cyllyll a’r cyfarpar cywir i baratoi, coginio a chyflwyno cynhyrchion oer cymhleth
  4. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a chyflwyno cynhyrchion oer cymhleth
  5. Paratoi a choginio’r cynhwysion i fodloni gofynion
  6. Sicrhau bod gan y cynhyrchion oer cymhleth y blas, y lliw a’r ansawdd cywir, a bod y maint yn gywir
  7. Garneisio a chyflwyno’r cynhyrchion oer cymhleth i fodloni gofynion
  8. Sicrhau bod y cynhyrchion oer cymhleth ar y tymheredd cywir i’w dal a’u gweini
  9. Storio unrhyw gynhyrchion oer cymhleth wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i ddewis y math cywir o gynhwysion, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y cynnyrch
  2. Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r cynhwysion
  3. Beth yw’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio a gorffen gofynnol
  4. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen yn unol â gofynion y cynnyrch
  5. Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer, y cyllyll, y cyfarpar a’r technegau cywir wrth baratoi, coginio a chyflwyno cynhyrchion oer cymhleth
  6. Sut i adnabod pan fydd gan gynhyrchion oer cymhleth y lliw, y blas a’r ansawdd cywir, a bod y maint yn gywir
  7. Camgymeriadau cyffredin gyda chynhyrchion oer cymhleth a sut i’w lleihau a’u cywiro
  8. Eitemau all gael eu defnyddio i garneisio cynhyrchion
  9. Sut i ddelio ag eitemau sy’n cael eu dychwelyd o’r bwffe
  10. Tueddiadau presennol yn gysylltiedig â chynhyrchion oer cymhleth
  11. Sut i storio cynhyrchion oer cymhleth
  12. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a chyflwyno cynhyrchion oer cymhleth

Cwmpas/ystod

1. Dulliau paratoi, coginio, gorffen a chyflwyno
12.1 berwi
12.2 rhostio
12.3 cyfuno dulliau coginio
12.4 potsio
12.5 pobi
12.6 stemio
12.7 cywasgu / ailffurfio
12.8 siapio / mowldio
12.9 ffiledu
12.10 tynnu’r esgyrn
12.11 tynnu’r croen / trimio
12.12 blendio / hylifo
12.13 rholio
12.14 cerfio
12.15 rhwymo a chlymu
12.16 briwio a phrosesu
12.17 rhoi trwy liain
12.18 garneisio
12.19 cyflwyno

2. Cynhyrchion bwyd oer
2.1 cig coch wedi’i goginio
2.2 cig gwyn wedi’i goginio
2.3 golwython o gig
2.4 dofednod wedi’u coginio
2.5 saladau
2.6 ffrwythau a llysiau
2.7 wyau
2.8 cynhyrchion sy’n cynnwys startsh
2.9 pysgod (cyfan / wedi’u rhannu’n ddognau)
2.10 helgig
2.11 cynnyrch llaeth
2.12 reis
2.13 terinau
2.14 pâté
2.15 eitemau wedi’u cochi
2.16 mousses
2.17 tameidiau i aros pryd sawrus / bwffe


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL3PC20

Galwedigaethau Perthnasol

Dirprwy Chef, Uwch Chef/Gogydd

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

paratoi, coginio, cyflwyno, oer, cymhleth