Paratoi pysgod ar gyfer seigiau cymhleth

URN: PPL3PC2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi pysgod ffres, heb eu paratoi, ar gyfer seigiau cymhleth. Mae dulliau paratoi yn cynnwys ffiledu llawn ynghyd â gwahanol doriadau o bysgodyn. Mae amrywiaeth o fathau o bysgod yn cael sylw yn y safon, gan gynnwys pysgod egsotig.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi pysgod ar gyfer seigiau cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi pysgod ar gyfer seigiau cymhleth


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o bysgod a faint sydd eu hangen i’w paratoi
  2. Gwirio bod y pysgod yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi’r pysgod
  4. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi’r pysgod
  5. Paratoi’r pysgod i gynnal ansawdd ac i fodloni gofynion y saig
  6. Storio unrhyw bysgod a baratowyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Prif nodweddion gwahanol fathau o bysgod
  2. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn pysgod ffres
  3. Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r pysgod neu gynhwysion eraill
  4. Gwerthoedd maethol pob math o bysgodyn
  5. Sut i ddewis y math cywir o bysgodyn, ei ansawdd a faint sydd ei angen i fodloni gofynion y saig
  6. Toriadau addas ar gyfer pob math o bysgodyn
  7. Y gyfran fras a geir o bysgodyn wedi’i baratoi
  8. Sut i reoli dognau i leihau gwastraff
  9. Dulliau paratoi ar gyfer gwahanol seigiau pysgod cymhleth
  10. Y tueddiadau presennol yn gysylltiedig â pharatoi seigiau pysgod cymhleth
  11. Beth yw’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol
  12. Sut i storio pysgod wedi’u paratoi
  13. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi pysgod ar gyfer seigiau cymhleth

Cwmpas/ystod

1. Pysgod
13.1 pysgod gwyn – crwn
13.2 pysgod gwyn – lledod
13.3 pysgod olewog
13.4 pysgod egsotig

2. Dulliau paratoi
2.1 diberfeddu
2.2 ffiledu
2.3 torri
•darne
•goujons
•plait
•paupiette
•supreme
•tronçon
2.4 trimio
2.5 tynnu’r croen
2.6 marinadu
2.7 caenu
2.8 rhoi haenen ar ben y pysgodyn (er enghraifft, gyda chrwst perlysiau)
2.9 gorchuddio (er enghraifft, en croûte)
2.10 rhannu’n ddognau


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL3PC2

Galwedigaethau Perthnasol

Dirprwy Chef, Uwch Chef/Gogydd

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

paratoi, pysgod, cymhleth