Paratoi, prosesu a gorffen cynhyrchion marsipán, pastillage a siwgr
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, prosesu a gorffen cynhyrchion marsipán, pastillage a siwgr, er enghraifft:
• addurno cacennau
• cacennau priodas
• nougatine / croquante
• wedi’u gwneud o siwgr
• meringue Eidalaidd
• cyffug
Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi a thechnegau coginio sy’n gysylltiedig â marsipán, pastillage a gwaith siwgr.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, prosesu a gorffen cynhyrchion marsipán, pastillage a siwgr; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, prosesu a gorffen cynhyrchion marsipán, pastillage a siwgr cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen ar gyfer y cynnyrch
- Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i baratoi, prosesu a gorffen y cynhyrchion
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, prosesu a gorffen y cynhyrchion
- Paratoi a phrosesu’r cynhwysion i fodloni gofynion
- Sicrhau bod gan y cynhyrchion marsipán, pastillage a siwgr y blas, y lliw, yr ansawdd a’r golwg cywir, a bod y maint yn gywir
- Addurno a chyflwyno cynhyrchion pastillage a siwgr i fodloni gofynion
- Storio unrhyw gynhyrchion marsipán, pastillage a siwgr wedi’u prosesu na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o gynhyrchion marsipán, pastillage a siwgr a’u nodweddion
- Sut i ddewis y math cywir o gynhwysion, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y cynnyrch
- Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r cynhwysion
- Beth yw’r offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a phrosesu gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, prosesu a gorffen yn unol â gofynion y cynnyrch
- Yr amserau a’r tymereddau cywir ar gyfer coginio gwahanol gynhyrchion a pham mae’r rhain yn bwysig
- Sut i adnabod pan fydd gan gynhyrchion pastillage a siwgr y lliw, y blas, yr ansawdd a’r golwg cywir, a bod y maint yn gywir
- Camgymeriadau cyffredin gyda chynhyrchion marsipán, pastillage a siwgr a sut i’w lleihau a’u cywiro
- Eitemau y gellir eu defnyddio i addurno cynhyrchion
- Sut i addurno cynhyrchion
- Tueddiadau presennol yn gysylltiedig â chynhyrchion marsipán, pastillage a siwgr
- Sut i storio cynhyrchion marsipán, pastillage a siwgr
Cwmpas/ystod
1. Dulliau paratoi, prosesu a gorffen
12.1 berwi
12.2 dipio
12.3 mowldio
12.4 arllwys
12.5 rholio
12.6 cymysgu
12.7 cyflyru
12.8 peipio
12.9 tynnu
12.10 trin
12.11 blendio (lliw a blas)
12.12 torri a thaenu
12.13 sbinio
12.14 addurno