Paratoi, prosesu a gorffen cynhyrchion siocled cymhleth

URN: PPL3PC18
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, prosesu a gorffen cynhyrchion siocled cymhleth, er enghraifft:
• gosodiadau canol bach a wnaed o siocled
• darnau cystadleuaeth
• peli siocled
• mowldiau/siapiau (e.e. Wyau Pasg)

Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi a thechnegau coginio sy’n gysylltiedig â gwaith siocled.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, prosesu a gorffen cynhyrchion siocled cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, prosesu a gorffen cynhyrchion siocled cymhleth


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen ar gyfer y cynnyrch
  2. Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i baratoi, prosesu a gorffen y cynhyrchion
  4. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, prosesu a gorffen y cynhyrchion
  5. Paratoi a phrosesu’r cynhwysion i fodloni gofynion
  6. Sicrhau bod gan y cynhyrchion siocled y blas, y lliw, yr ansawdd a’r golwg cywir, a bod eu maint yn gywir
  7. Addurno a chyflwyno cynhyrchion siocled i fodloni gofynion
  8. Storio unrhyw gynhyrchion siocled wedi’u prosesu na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gwahanol fathau o gynhyrchion siocled cymhleth a’u nodweddion
  2. Sut i ddewis y math cywir o gynhwysion, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y cynnyrch
  3. Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r cynhwysion
  4. Beth yw’r offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi, prosesu a gorffen gofynnol
  5. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, prosesu a gorffen yn unol â gofynion y cynnyrch
  6. Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer, y cyllyll, y cyfarpar a’r technegau cywir wrth baratoi, prosesu a gorffen cynhyrchion siocled cymhleth
  7. Sut i adnabod pan fydd gan gynhyrchion siocled y lliw, y blas a’r ansawdd cywir, a bod y maint yn gywir
  8. Pryd gellir defnyddio gorchudd siocled (couverture) a sut gellir ei dymheru
  9. Camgymeriadau cyffredin gyda chynhyrchion siocled a sut i’w lleihau a’u cywiro
  10. Eitemau y gellir eu defnyddio i addurno cynhyrchion siocled
  11. Sut i addurno cynhyrchion siocled
  12. Tueddiadau presennol yn gysylltiedig â chynhyrchion siocled cymhleth
  13. Sut i storio cynhyrchion siocled cymhleth
  14. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, prosesu a gorffen cynhyrchion siocled cymhleth

Cwmpas/ystod

1. Siocled
14.1 plaen
14.2 gwyn
14.3 llaeth

2. Dulliau paratoi, prosesu a gorffen
2.1 rholio
2.2 cymysgu
2.3 sychu
2.4 trin
2.5 blendio lliw a blas
2.6 torri
2.7 taenu
2.8 toddi
2.9 tymheru
2.10 modelu
2.11 pacio
2.12 addurno
2.13 cyflwyno’r cynnyrch terfynol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL3PC18

Galwedigaethau Perthnasol

Dirprwy Chef, Uwch Chef/Gogydd

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

paratoi, prosesu, gorffen, siocled, cymhleth