Paratoi, coginio a gorffen cynhyrchion crwst cymhleth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen cynhyrchion crwst cymhleth, er enghraifft:
• strwdel afalau
• barquettes
• samosas
• tarte tatin
• Paris Brest
• tartenni cwstard
Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o dechnegau paratoi, coginio a gorffen sy’n gysylltiedig â cynhyrchion crwst cymhleth.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion crwst cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion crwst cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen ar gyfer y cynnyrch
- Pwyso’r cynhwysion sydd eu hangen yn gywir
- Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i baratoi, coginio a gorffen y cynnyrch
- Paratoi a choginio’r cynhwysion i fodloni gofynion
- Sicrhau bod gan y cynnyrch crwst y lliw, yr ansawdd a’r gorffeniad cywir
- Cyflwyno’r cynnyrch crwst i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y cynnyrch crwst ar y tymheredd cywir i’w ddal a’i weini
- Storio unrhyw gynnyrch crwst wedi’i goginio na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o gynnyrch crwst cymhleth a’u nodweddion
- Sut i storio cynhwysion amrwd cyn eu paratoi a’u coginio
- Sut i ddewis y math cywir o gynhwysion, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y cynnyrch
- Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r cynhwysion
- Beth yw’r offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi a choginio yn unol â gofynion y rysáit
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer, y cyllyll, y cyfarpar a’r technegau cywir wrth baratoi a choginio cynhyrchion crwst cymhleth
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio pob math o gynnyrch crwst cymhleth a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
- Sut i adnabod pan fydd gan gynhyrchion crwst y lliw, yr ansawdd a’r gorffeniad cywir
- Camgymeriadau cyffredin gyda chynhyrchion crwst cymhleth a sut i’w lleihau a’u cywiro
- Sut mae’r defnydd o wahanol gynhwysion yn gallu effeithio ar flas y crwst
- Tueddiadau presennol yn gysylltiedig â chynhyrchion crwst cymhleth
- Sut i storio cynhyrchion crwst cymhleth
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi a choginio cynhyrchion crwst cymhleth
Cwmpas/ystod
1. Cynnyrch crwst
14.1 brau
14.2 melys
14.3 siwed
14.4 choux
14.5 pwff / haenog
14.6 sablé
14.7 rhewedig
14.8 crwst dŵr poeth
2. Dulliau paratoi a choginio
2.1 pwyso / mesur
2.2 hidlo
2.3 rhwbio i mewn
2.4 hufennu
2.5 tylino
2.6 gorffwys
2.7 awyru
2.8 cyflyru / oeri
2.9 peipio
2.10 laminadu
2.11 rholio
2.12 plygu
2.13 leinio / mowldio
2.14 trimio
2.15 pobi
2.16 cyfuno dulliau coginio
3. Dulliau gorffen
3.1 sgleinio
3.2 delltio
3.3 peipio
3.4 quadrillage
3.5 rhychu
3.6 mowldio
3.7 llenwi