Paratoi, coginio a gorffen seigiau pasta ffres
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen seigiau pasta ffres, er enghraifft:
• ravioli / raviolo
• tortellini
• tagliatelle
Mae’r safon yn ymwneud â phasta ffres a phasta wedi’i lenwi, ac amrywiaeth o dechnegau paratoi, coginio a gorffen sy’n gysylltiedig â phasta ffres.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen seigiau pasta ffres; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen seigiau pasta ffres
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o basta ffres a chynhwysion eraill a faint sydd eu hangen ar gyfer y saig
- Gwirio’r holl gynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i baratoi, coginio a gorffen y pasta
- Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y pasta
- Paratoi’r pasta ffres a’r cynhwysion eraill i fodloni gofynion y saig
- Coginio’r pasta a’r cynhwysion eraill i fodloni gofynion y saig
- Sicrhau bod gan y saig y blas, y lliw a’r ansawdd cywir, a bod ei maint yn gywir
- Cyflwyno’r saig i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y saig ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
- Storio unrhyw seigiau pasta wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o seigiau pasta cymhleth a’u nodweddion
- Sut i ddewis y math cywir o basta a chynhwysion eraill, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y saig
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn pasta a chynhwysion eraill
- Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r pasta a chynhwysion eraill
- Beth yw’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi a choginio yn unol â gofynion y saig
- Sut i adnabod pan fydd gan basta a wnaed yn ffres y priodweddau cywir
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau pasta cymhleth
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio seigiau pasta cymhleth a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
- Camgymeriadau cyffredin mewn seigiau pasta cymhleth a sut i’w lleihau a’u cywiro
- Sut i orffen a chyflwyno seigiau pasta cymhleth
- Tueddiadau presennol yn gysylltiedig â seigiau pasta cymhleth
- Sut i adnabod pan fydd gan seigiau pasta’r lliw, y blas, y tewychedd a’r gorffeniad cywir, a bod y maint yn gywir
- Sut i addasu blas seigiau pasta cymhleth
- Sut i gydbwyso blas, ansawdd, lliw, tewychedd a safon y saig derfynol
- Y cyfwydydd a’r garnisiau priodol ar gyfer gwahanol seigiau pasta cymhleth
- Pa bwyntiau ansawdd sy’n gysylltiedig â seigiau pasta cymhleth
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau pasta
- Sut i storio seigiau pasta wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau pasta cymhleth
Cwmpas/ystod
1. Pasta
1.1 pasta wedi’i lenwi
1.2 pasta heb ei lenwi
2. Dulliau paratoi a choginio
2.1 pwyso/mesur
2.2 hidlo
2.3 tynnu/tylino
2.4 gorffwys
2.5 rholio
2.6 rhannu’n ddognau
2.7 berwi
2.8 pobi
2.9 cyfuno dulliau coginio
3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 gyda saws / sgleinio / dresin
3.3 cyflwyno