Paratoi, coginio a gorffen sawsiau poeth cymhleth

URN: PPL3PC12
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen sawsiau poeth cymhleth, er enghraifft:
• sawsiau menyn cyfansawdd
• sawsiau eraill sy’n dechrau gyda roux (er enghraifft, beurre manié neu roux oer)
• sawsiau emwlsiwn (er enghraifft, beurre blanc neu hollandaise)
• sawsiau wedi’u tewychu â hufen
• deilliannau sawsiau gwyn / brown
• sawsiau wedi’u lleihau

Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o dechnegau paratoi, coginio a gorffen sy’n gysylltiedig â sawsiau poeth cymhleth.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen sawsiau poeth cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen sawsiau poeth cymhleth


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen i’w paratoi
  2. Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi, coginio a gorffen y saws
  4. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y saws
  5. Cyfuno’r cynhwysion yn unol â gofynion y saig
  6. Paratoi a choginio’r saws i fodloni gofynion
  7. Sicrhau bod gan y saws y blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei faint yn gywir
  8. Cyflwyno’r saws i fodloni gofynion
  9. Sicrhau bod y saig ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
  10. Storio unrhyw saws wedi’i goginio na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gwahanol fathau o sawsiau poeth cymhleth a’u nodweddion
  2. Y defnydd diogel o alcohol mewn sawsiau a pham mae’n cael ei ddefnyddio
  3. Sut i ddewis y math cywir o gynhwysion, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y saws
  4. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cynhwysion sawsiau
  5. Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r cynhwysion
  6. Beth yw’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio a gorffen gofynnol
  7. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen yn unol â gofynion y saws
  8. Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffen sawsiau poeth cymhleth
  9. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio sawsiau poeth cymhleth a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
  10. Camgymeriadau cyffredin mewn sawsiau cymhleth a sut i’w lleihau a’u cywiro
  11. Tueddiadau presennol yn gysylltiedig â sawsiau poeth cymhleth
  12. Sut i adnabod pan fydd gan sawsiau’r lliw, y blas, y tewychedd a’r gorffeniad cywir, a bod y maint yn gywir
  13. Sut i addasu blas sawsiau, stociau, grefi a sgleiniau cymhleth
  14. Sut i gydbwyso blas, ansawdd, lliw, tewychedd a safon y saig derfynol gyda’r saws
  15. Y cyfwydydd a’r garnisiau priodol ar gyfer gwahanol sawsiau cymhleth
  16. Pa bwyntiau ansawdd sy’n gysylltiedig â sawsiau poeth cymhleth
  17. Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini sawsiau
  18. Sut i storio sawsiau wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
  19. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen sawsiau poeth cymhleth

Cwmpas/ystod

  1. Dulliau paratoi, coginio a gorffen
    19.1 pwyso / mesur
    19.2 torri
    19.3 mudferwi
    19.4 lleihau
    19.5 berwi
    19.6 gwneud roux
    19.7 rhoi trwy liain / hidlo / blendio
    19.8 sgimio
    19.9 chwisgo
    19.10 ychwanegu hufen
    19.11 ychwanegu tewychydd
    19.12 purée

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL3PC12

Galwedigaethau Perthnasol

Dirprwy Chef, Uwch Chef/Gogydd

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

paratoi, coginio, gorffen, sawsiau poeth, cymhleth