Coginio a gorffen seigiau helgig cymhleth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â choginio a gorffen seigiau helgig cymhleth, er enghraifft:
• sofliar wedi’i rostio mewn pot
• colomen sauté
• cefnddryll carw wedi’i rostio
• cwningen / ysgyfarnog wedi’i frwysio
Mae’r safon hon yn ymwneud â helgig ffwr a phlu. Yna, mae’n mynd ymlaen i ddisgrifio’r dulliau coginio a’r technegau gorffen sy’n gysylltiedig â seigiau helgig cymhleth.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i goginio a gorffen seigiau helgig cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Goginio a gorffen seigiau helgig cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o helgig a faint sydd ei angen ar gyfer y saig
- Gwirio’r helgig i sicrhau ei fod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i goginio a gorffen yr helgig
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth goginio a gorffen yr helgig
- Cyfuno’r helgig â chynhwysion eraill
- Coginio’r helgig i fodloni gofynion y saig
- Sicrhau bod gan y saig y blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
- Garneisio a chyflwyno’r saig i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y saig ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
- Storio unrhyw helgig wedi’i goginio na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i ddewis y math cywir o helgig, ei ansawdd a faint sydd ei angen i fodloni gofynion y saig
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn helgig
- Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r helgig neu gynhwysion eraill
- Beth yw’r offer a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau coginio gofynnol
- Sut i gyfuno helgig â chynhwysion eraill i greu saig gymhleth a chytbwys
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau coginio yn unol â gofynion y saig
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio helgig gan ddefnyddio pob dull coginio a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
- Y dulliau gorffen priodol ar gyfer amrywiaeth o seigiau helgig cymhleth
- I ba raddau y mae angen coginio pob math o saig helgig gymhleth a sut i wirio bod hyn wedi cael ei gyflawni
- Sut i leihau a chywiro camgymeriadau cyffredin mewn seigiau helgig cymhleth
- Sut i addasu’r blas, y tewychedd a’r lliw ar gyfer saig helgig gymhleth
- Pa ddulliau coginio sy’n briodol i bob math o helgig
- Y tueddiadau a’r methodolegau presennol yn gysylltiedig â choginio a gorffen seigiau helgig cymhleth
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau helgig cymhleth
- Sut i storio seigiau helgig cymhleth na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth goginio a gorffen seigiau helgig cymhleth
Cwmpas/ystod
1. Helgig
16.1 ffwr
16.2 plu
2. Dulliau coginio
2.1 sauté
2.2 rhostio
2.3 rhostio mewn pot
2.4 brwysio
2.5 pobi
2.6 stiwio
2.7 confit
2.8 sous vide
2.9 cyfuno dulliau coginio
3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 gyda saws / sgleinio / dresin
3.3 cyflwyno