Paratoi helgig ar gyfer prydau cymhleth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi helgig ar gyfer seigiau cymhleth, er enghraifft:
• sofliar wedi’i rostio mewn pot
• colomen sauté
• cefnddryll carw wedi’i rostio
• cwningen / ysgyfarnog wedi’i frwysio
Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi a mathau o helgig, ffwr a phlu.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi helgig ar gyfer seigiau cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi helgig ar gyfer seigiau cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o helgig a faint sydd ei angen i’w baratoi
- Gwirio bod yr helgig yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi’r helgig
- Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi’r helgig
- Paratoi’r helgig i gynnal ansawdd ac i fodloni gofynion y saig
- Storio unrhyw helgig a baratowyd na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Prif nodweddion gwahanol fathau o helgig
- Natur dymhorol gwahanol fathau o helgig ac a ydynt ar gael
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn helgig ffres
- Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r helgig neu gynhwysion eraill
- Gwerthoedd maethol pob math o helgig
- Sut i ddewis y math cywir o helgig, ei ansawdd a faint sydd ei angen i fodloni gofynion y saig
- Toriadau addas ar gyfer pob math o helgig
- Y gyfran fras a geir o helgig wedi’u paratoi
- Sut i reoli dognau i leihau gwastraff
- Dulliau paratoi ar gyfer gwahanol seigiau helgig cymhleth
- Y tueddiadau presennol yn gysylltiedig â pharatoi seigiau helgig cymhleth
- Beth yw’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol
- Sut i storio helgig wedi’u paratoi
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi helgig ar gyfer seigiau cymhleth
Cwmpas/ystod
1. Helgig
14.1 ffwr
14.2 plu
2. Dulliau paratoi
2.1 hongian
2.2 tynnu’r croen
2.3 plufio
2.4 chwilio am beledi/haels a’u gwaredu
2.5 golchi
2.6 sesno
2.7 marinadu
2.8 trimio
2.9 torri (yn ddognau a deis)
2.10 stwffio/llenwi
2.11 gwahanu’r asgwrn cefn rhag yr asennau (chining)
2.12 tynnu’r esgyrn o’r helgig (tunnelling)
2.13 ballotine
2.14 cochi (poeth ac oer)
2.15 galantine