Coginio a gorffen prydau llysieuol cymhleth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â choginio a gorffen seigiau llysieuol cymhleth, er enghraifft:
• timbal
• terîn llysiau
• galette tatws
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl brif grwpiau llysiau. Yna, mae’n symud ymlaen i ddisgrifio’r dulliau coginio a’r technegau gorffen sy’n gysylltiedig â seigiau llysieuol cymhleth.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i goginio a gorffen seigiau llysieuol cymhleth; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn lletygarwch
• Rheoli diogelwch bwyd mewn cegin broffesiynol
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Goginio a gorffen seigiau llysieuol cymhleth
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o lysiau a faint sydd eu hangen ar gyfer y saig
- Gwirio’r llysiau i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i goginio a gorffen y llysiau
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir i goginio a gorffen y llysiau
- Cyfuno’r llysiau â chynhwysion eraill
- Coginio’r llysiau a’r cynhwysion eraill i fodloni gofynion y saig
- Sicrhau bod gan y saig y blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
- Garneisio a chyflwyno’r saig i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y saig ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
- Storio unrhyw eitemau na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i ddewis y math cywir o lysiau, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y saig
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn llysiau
- Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r llysiau neu gynhwysion eraill
- Sut i gyfuno llysiau â chynhwysion eraill i greu saig gymhleth a chytbwys
- Beth yw’r offer a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau coginio gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau coginio a gorffen yn unol â gofynion y saig
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio llysiau gan ddefnyddio pob dull coginio a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
- Y garnisiau, y dresinau, y sawsiau a’r sgleiniau priodol ar gyfer amrywiaeth o seigiau llysiau cymhleth
- Pa ddulliau coginio sy’n briodol i bob math o saig llysiau gymhleth a sut i wirio bod y llysiau wedi’u coginio’n gywir ar gyfer pob un ohonynt
- Sut i leihau a chywiro camgymeriadau cyffredin mewn seigiau llysiau cymhleth
- Sut i addasu blas, tewychedd a lliw’r saig llysiau gymhleth.
- Y tueddiadau a’r methodolegau presennol yn gysylltiedig â choginio a gorffen seigiau llysiau cymhleth
- Tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau llysiau cymhleth
- Sut i storio seigiau llysiau cymhleth na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth goginio a gorffen seigiau llysiau cymhleth
- Sut i wneud y mwyaf o gynnwys maethol seigiau llysiau cymhleth yn ystod coginio, a chadw’r cynnwys hwnnw
Cwmpas/ystod
1. Llysiau
16.1 gwreiddlysiau
16.2 bylbiau
16.3 fflurbennau
16.4 ffyngau
16.5 hadau a chodennau
16.6 cloron
16.7 dail
16.8 coesynnau
16.9 ffrwyth-lysiau
2. Dulliau coginio
2.1 blansio
2.2 berwi
2.3 rhostio
2.4 pobi
2.5 grilio
2.6 brwysio
2.7 ffrio (dwfn / bas / tro ffrio)
2.8 stemio
2.9 stiwio
2.10 confit
2.11 sous vide
2.12 cochi
2.13 piclo
2.14 cyfuno dulliau coginio
3. Cynhwysion eraill
3.1 cnau
3.2 opsiynau yn lle cig
3.3 ffacbys
3.4 crwst
3.5 reis
3.6 pasta
3.7 grawn
4. Dulliau gorffen
4.1 garneisio
4.2 gyda saws / sglein / dresin
4.3 cyflwyno