Cymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn arlwyo a lletygarwch
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn amgylchedd arlwyo. Mae’n ymwneud â’r wybodaeth a’r sgiliau y mae ar weithwyr yn y sector lletygarwch eu hangen yn gysylltiedig â’r rheoliadau perthnasol sy’n gosod y gofyniad cyfreithiol bod gan bob busnes sy’n delio â bwyd Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd wedi’u gwreiddio yn eu systemau gweithredu a rheoli.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r goruchwylwyr a’r rheolwyr hynny sy’n gweithio mewn busnesau arlwyo a lletygarwch.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi wedi dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gymhwyso a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn arlwyo a lletygarwch
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi peryglon diogelwch bwyd perthnasol a chamau rheoli priodol
- Neilltuo a goruchwylio cyfrifoldebau diogelwch bwyd
- Nodi a bodloni anghenion hyfforddiant a datblygiad staff
- Sicrhau bod yr holl gamau rheoli gweithredol penodedig wedi’u cwblhau yn unol â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
- Cadw cofnodion cywir a chyflawn o wiriadau yn unol â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
- Cymryd camau cywirol priodol gyda’r brys priodol pan fydd camau rheoli yn methu
- Rhoi gwybod i’r person priodol am unrhyw weithdrefnau nad ydynt yn cydymffurfio â chamau rheoli
- Ceisio cyngor a chymorth arbenigol ar gyfer materion sydd y tu hwnt i lefel eich awdurdod neu’ch arbenigedd
- Argymell addasiadau i weithdrefnau rheoli diogelwch bwyd yn unol â newidiadau mewn anghenion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Pwysigrwydd cael gweithdrefnau diogelwch bwyd a’r mathau o beryglon diogelwch bwyd
- Beth yw camau rheoli, gan gynnwys pwyntiau rheoli critigol
- Eich cyfrifoldebau o dan weithdrefnau rheoli diogelwch bwyd eich sefydliad, gan gynnwys y pwyntiau rheoli critigol sy’n gysylltiedig â’ch gweithgareddau gwaith chi
- Sut i gyfleu cyfrifoldebau am weithdrefnau rheoli diogelwch bwyd i gydweithwyr a sicrhau eu bod yn deall y gweithdrefnau
- Sut i sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant priodol i fodloni eu cyfrifoldebau diogelwch bwyd
- Effaith goddefiant adeg pwyntiau rheoli critigol ac adeg pwyntiau rheoli ar ddiogelwch bwyd ac ar eich sefydliad
- Y mathau o wiriadau y dylech eu cyflawni, a pha mor aml, i reoli diogelwch bwyd o fewn eich gweithgareddau gwaith
- Y gweithdrefnau adrodd pan fydd camau rheoli yn methu
- Y cofnodion y mae eu hangen ar gyfer rheoli diogelwch bwyd, a sut i’w cynnal
- Pwysigrwydd ‘y gallu i olrhain’ a pham mae’n bwysig i ddiogelwch bwyd
- Y mathau o gamau cywirol i reoli peryglon diogelwch bwyd, a’u dulliau
- Beth yw gwelliant parhaus a pham mae’n bwysig er mwyn cyfrannu at y broses wella
- Deddfwriaeth ar ddiogelwch bwyd yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano
- Ffynonellau gwybodaeth am ddeddfwriaeth diogelwch bwyd
- Sut dylid delio â swyddogion gorfodi
- Gweithdrefnau sefydliadol yn gysylltiedig â diogelwch bwyd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Camau rheoli: y camau sy’n ofynnol i atal neu waredu perygl diogelwch bwyd, neu i’w ostwng i lefel dderbyniol
Pwynt rheoli: cam allweddol yn y gadwyn fwyd pryd dylid cymryd camau priodol i atal perygl diogelwch bwyd neu i ostwng y risg gysylltiedig
Camau cywirol: y camau i’w cymryd pan fydd terfyn critigol yn cael ei dorri
Pwynt rheoli critigol: cam allweddol yn y gadwn fwyd pryd dylid cymryd camau priodol i atal perygl diogelwch bwyd neu i ostwng y risg gysylltiedig
Peryglon diogelwch bwyd: rhywbeth a all achosi niwed i’r defnyddiwr a gall fod yn:
• ficrobiolegol (er enghraifft, bacteria, llwydni, firysau)
• cemegol (er enghraifft, plaleiddiaid a ddefnyddir ar ffrwythau a llysiau, cemegolion a ddefnyddir wrth lanhau neu i reoli plâu)
• ffisegol (er enghraifft, pryfed, parasitiaid, gwydr)
• alergenig (er enghraifft, cnau, llaeth, wyau)
Gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd: y polisïau, yr arferion, y camau rheoli a’r ddogfennaeth sy’n sicrhau bod bwyd yn ddiogel i ddefnyddwyr, e.e. Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP).
Gweithdrefnau: cyfres o gamau neu gyfarwyddiadau clir ar sut i wneud pethau; rheolau. Mae rhai cwmnïau’n cofnodi eu gweithdrefnau yn ffurfiol yn ysgrifenedig, mae gan eraill weithdrefnau y mae'r holl staff yn eu deall a’u dilyn, ond nad oes cofnod ysgrifenedig ohonynt.
Goddefiant: y gwahaniaeth rhwng y terfynau arfaethedig neu’r terfynau safonol a ganiateir a’r gwerthoedd gwirioneddol sy’n cael eu monitro