Cynhyrchu seigiau pasta sylfaenol

URN: PPL2PRD9
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu a Choginio Bwyd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu, coginio / adfywio a gorffen seigiau pasta sylfaenol. Mae’n delio â sut byddech chi’n paratoi’r saig yn ddiogel, dulliau coginio / adfywio priodol, gan gynnwys berwi a phobi, a sgiliau gorffen a chyflwyno e.e. garneisio.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gynhyrchu seigiau pasta sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynhyrchu seigiau pasta sylfaenol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Sicrhau bod yr ardal baratoi yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
  2. Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
  3. Gwirio bod yr holl gynhwysion yn bodloni gofynion y saig, diogelwch bwyd a’ch gweithle
  4. Paratoi a choginio / adfywio’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig
  5. Gwirio bod lliw, ansawdd, tewychedd a blas y saig pasta orffenedig yn gywir
  6. Gwirio bod y saig yn cael ei choginio / hadfywio a’i dal ar y tymheredd cywir
  7. Cyflwyno a gorffen y saig i fodloni gofynion y cwsmer a’ch gweithle
  8. Storio unrhyw basta neu seigiau pasta wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â gofynion y gweithle a gofynion diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi, coginio / adfywio, oeri a gorffen seigiau pasta sylfaenol
  2. Sut i wirio bod y pasta a’r cynhwysion eraill yn bodloni gofynion eich gweithle a’u bod yn addas i’w defnyddio, a bod eu nifer a’u hansawdd yn gywir
  3. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r pasta neu’r cynhwysion eraill, ac i bwy
  4. Sut i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio / adfywio a gorffen perthnasol ar gyfer pob saig a pha basta sy’n addas ar gyfer pob dull coginio
  5. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen seigiau pasta sylfaenol
  6. Sut i gyflwyno seigiau pasta sylfaenol mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
  7. Y gofynion oeri a storio cywir ar gyfer cynhyrchion pasta sylfaenol na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
  8. Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen cynhyrchion pasta sylfaenol a sut i ddelio â nhw

Cwmpas/ystod

1. Pasta
1.1 pasta wedi’i lenwi
1.2 pasta wedi’i siapio
1.3 lasagne
1.4 pasta sych
1.5 pasta ffres wedi’i baratoi ymlaen llaw

2. Dulliau paratoi a choginio
2.1 blansio
2.2 hidlo
2.3 cymysgu
2.4 berwi
2.5 pobi
2.6 adfywio (e.e. mewn popty microdon)

3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 ychwanegu cyfwyd
3.3 cyflwyno


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PRD9

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

seigiau, pasta, sylfaenol