Bwydydd wedi’u coginio a’u rhewi

URN: PPL2PRD6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol,Cynhyrchu a Choginio Bwyd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â phrosesu bwydydd wedi’u coginio a’u rhewi. Mae’r safon yn ymdrin â rhannu bwyd yn ddognau, ei becynnu a’i chwyth-rewi, selio a labelu bwyd wedi’i chwyth-rewi yn gywir, a monitro a chofnodi ei dymheredd. Hefyd, mae’r safon yn delio â storio’n gywir fwydydd wedi’u coginio a’u rhewi sydd wedi’u pecynnu, gweithdrefnau cylchdroi stoc a chynnal cofnodion cywir.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i brosesu bwydydd wedi’u coginio a’u rhewi; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Bwydydd wedi’u coginio a’u rhewi


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Sicrhau bod yr ardal baratoi yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
  2. Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
  3. Gwirio bod y bwyd yn bodloni gofynion y saig, diogelwch bwyd a’ch gweithle o ran ansawdd, faint o fwyd sydd a’r gofynion coginio
  4. Delio ag unrhyw fwyd nad yw’n bodloni gofynion diogelwch bwyd neu’r gweithle
  5. Rhannu bwyd yn ddognau, ei becynnu a’i orchuddio yn gywir
  6. Chwyth-rewi bwyd, ei selio a’i labelu yn gywir
  7. Monitro a chofnodi tymereddau bwyd ac ardaloedd storio yn gywir, yn unol â gofynion diogelwch bwyd a’ch gweithle
  8. Cludo cynwysyddion i’r ardaloedd storio priodol yn ddiogel ac yn hylan
  9. Storio eitemau wedi’u coginio a’u rhewi ar y tymheredd a’r amodau cywir
  10. Dilyn gweithdrefnau cylchdroi stoc yn gywir a defnyddio stoc yn ôl trefn dyddiad
  11. Cynnal cofnodion cywir o eitemau bwyd sy’n cael eu derbyn, eu storio a’u dosbarthu
  12. Trin eitemau bwyd yn gywir fel na fydd difrod iddynt
  13. Diogelu ardaloedd storio rhag mynediad anawdurdodedig
  14. Rhoi gwybod i’r person cywir yn brydlon am unrhyw broblemau a nodwch

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Arferion gweithio diogel a hylan wrth rannu bwyd yn ddognau, ei becynnu a’i chwyth-rewi
  2. Pam mae amser a thymheredd yn bwysig wrth gynhyrchu bwydydd wedi’u coginio a’u rhewi
  3. Pam mae’n rhaid selio cynwysyddion bwyd a’u labelu’n gywir cyn eu storio
  4. Pam mae’n rhaid rheoli dognau wrth gynhyrchu bwydydd wedi’u coginio a’u rhewi
  5. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt wrth rannu bwyd yn ddognau, ei becynnu a’i chwyth-rewi
  6. Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth rannu bwydydd wedi’u coginio a’u rhewi yn ddognau, eu pecynnu, eu chwyth-rewi a’u storio
  7. Arferion gweithio diogel a hylan wrth storio bwydydd wedi’u coginio a’u rhewi
  8. Pam mae’n bwysig monitro a chofnodi tymereddau bwyd a thymereddau storio yn rheolaidd
  9. Pam mae’n rhaid dilyn gweithdrefnau cylchdroi stoc
  10. Pam dylai ardaloedd storio gael eu diogelu rhag mynediad anawdurdodedig

Cwmpas/ystod

1. Bwydydd
1.1 seigiau cig
1.2 seigiau dofednod
1.3 golwython / adar cyfan
1.4 llysiau / ffrwythau
1.5 seigiau llysiau
1.6 seigiau pysgod
1.7 sawsiau / cawl
1.8 seigiau wyau
1.9 pwdinau

2. Problemau gyda
2.1 chyfarpar
2.2 bwyd
2.3 pecynnu


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PRD6

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5435

Geiriau Allweddol

coginio, rhewi, bwyd