Cynhyrchu seigiau cig sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n cynhyrchu, yn coginio / adfywio ac yn gorffen seigiau cig sylfaenol. Mae’n delio â sut byddech chi’n paratoi’r saig yn ddiogel, dulliau coginio / adfywio priodol a sgiliau gorffen a chyflwyno.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gynhyrchu seigiau cig sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynhyrchu seigiau cig sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod yr ardal baratoi yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gwirio bod y cig a’r holl gynhwysion eraill yn bodloni gofynion y saig, diogelwch bwyd a’ch gweithle
- Paratoi a choginio / adfywio’r cig a’r cynhwysion eraill i fodloni gofynion y saig
- Gwirio bod lliw, ansawdd a blas y saig cig yn gywir
- Gwirio bod y saig cig yn cael ei choginio / hadfywio a’i dal ar y tymheredd cywir
- Cyflwyno a gorffen y saig cig i fodloni gofynion y cwsmer a’ch gweithle
- Storio unrhyw seigiau cig wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â gweithdrefnau’r gweithle a rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen seigiau cig sylfaenol
- Sut i wirio bod y cig a’r cynhwysion eraill yn bodloni gofynion eich gweithle, eu bod yn addas i’w defnyddio a bod eu nifer a’u hansawdd gofynnol yn gywir
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cig neu’r cynhwysion eraill, ac i bwy
- Sut i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio / adfywio a gorffen perthnasol ar gyfer pob saig
- Beth yw buddion selio cig
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen seigiau cig sylfaenol
- Sut i gyflwyno seigiau cig sylfaenol mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
- Y gofynion storio cywir ar gyfer cynhyrchion cig sylfaenol na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen cynhyrchion cig sylfaenol a sut i ddelio â nhw
Cwmpas/ystod
1. Cig
1.1 dognau cig
1.2 golwython cig
1.3 cynhyrchion cig wedi’i brosesu (byrgyrs / selsig)
1.4 cig wedi’i ddeisio / briwgig
2. Dulliau coginio
2.1 grilio
2.2 ar gridyll
2.3 ffrio (dwfn / bas / sauté / tro ffrio)
2.4 berwi
2.5 brwysio
2.6 stemio
2.7 stiwio
2.8 rhostio
2.9 pobi
2.10 adfywio (e.e. mewn popty microdon)
3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 ychwanegu cyfwyd
3.3 cyflwyno