Paratoi, gweithredu a glanhau cyfarpar arbenigol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n gweithredu ac yn cynnal a chadw cyfarpar coginio sy’n benodol i’ch gweithle. Mae hyn yn cynnwys cyfarpar paratoi, coginio a storio.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, gweithredu a glanhau cyfarpar arbenigol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, gweithredu a glanhau cyfarpar arbenigol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dilyn gweithdrefnau gweithredu’r gwneuthurwr a’ch gweithle wrth ddefnyddio cyfarpar arbenigol
- Gwirio’r holl gyfarpar i sicrhau ei fod yn lân, heb ddifrod ac yn barod a diogel i’w ddefnyddio
- Monitro bod y cyfarpar yn perfformio’n gywir
- Dilyn y gweithdrefnau cywir i ddiffodd y cyfarpar, ei dynnu ar led a galluogi iddo gael ei lanhau’n effeithiol
- Glanhau’r cyfarpar a’i ddarnau gan ddefnyddio’r dulliau, y cyfryngau glanhau a’r cyfarpar diogelu personol cywir
- Rhoi’r cyfarpar yn ôl at ei gilydd yn unol â’r safonau iechyd a diogelwch a diogelwch bwyd gofynnol, yn barod i barhau i’w ddefnyddio
- Rhoi gwybod i’r person perthnasol am unrhyw broblemau neu namau a nodir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi, gweithredu a glanhau cyfarpar arbenigol
- Y mathau o gyfarpar arbenigol a ddefnyddir yn eich gweithle
- Ble i ddod o hyd i’r gweithdrefnau gweithredu perthnasol ar gyfer y cyfarpar yn eich gweithle
- Pam mae’n bwysig dilyn gofynion diogelwch wrth baratoi, gweithredu a glanhau cyfarpar arbenigol
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau, ac i bwy
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi, gweithredu a glanhau cyfarpar arbenigol a sut i ddelio â nhw
Cwmpas/ystod
1. Mathau o gyfarpar
1.1 ar gyfer paratoi
1.2 ar gyfer coginio
1.3 ar gyfer glanhau
1.4 oeri
1.5 echdynnu
2. Adroddiadau am namau
2.1 namau trydanol
2.2 diffygion mecanyddol
2.3 camgymeriadau dynol