Cynhyrchu cynhyrchion o gynhwysion wedi’u cymysgu ymlaen llaw
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n cynhyrchu, yn coginio / adfywio ac yn gorffen cynhyrchion sylfaenol o gynhwysion wedi’u cymysgu ymlaen llaw. Mae’n delio â sut byddech chi’n paratoi’r cynhyrchion yn ddiogel, dulliau coginio / adfywio priodol, a sgiliau gorffen a chyflwyno.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gynhyrchu cynhyrchion o gynhwysion wedi’u cymysgu ymlaen llaw; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynhyrchu cynhyrchion o gynhwysion wedi’u cymysgu ymlaen llaw
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod yr ardal baratoi yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gwirio bod yr holl gynhwysion yn bodloni gofynion y cynnyrch, dognau, diogelwch bwyd a’ch gweithle
- Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig
- Labelu a storio cynhyrchion na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â gofynion y gweithle a gofynion diogelwch bwyd
- Gwirio bod yr holl gynhwysion yn bodloni gofynion y cynnyrch, dognau, diogelwch bwyd a’ch gweithle
- Coginio / adfywio’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig
- Gwirio bod lliw, ansawdd a blas y cynnyrch gorffenedig yn gywir
- Gwirio bod y cynnyrch yn cael ei goginio / adfywio a’i ddal ar y tymheredd cywir
- Cyflwyno a gorffen y cynnyrch i fodloni gofynion y cwsmer a’ch gweithle
- Storio unrhyw gynhyrchion wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â gofynion y gweithle a gofynion diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi cynhyrchion o gynhwysion wedi’u cymysgu ymlaen llaw
- Sut i wirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion eich gweithle a’u bod yn addas i’w defnyddio, a bod eu nifer a’u hansawdd yn gywir
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhwysion, ac i bwy
- Pam mae’n hanfodol y dylai poptai fod ar y tymheredd cywir cyn bod y pobi’n dechrau
- Sut i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio / adfywio a gorffen perthnasol ar gyfer pob saig
- Y gofynion storio cywir ar gyfer cynhyrchion a wnaed o gynhwysion wedi’u cymysgu ymlaen llaw na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen cynhyrchion o gynhwysion wedi’u cymysgu ymlaen llaw
- Sut i gyflwyno cynhyrchion o gynhwysion wedi’u cymysgu ymlaen llaw mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
- Y gofynion storio cywir ar gyfer cynhyrchion a wnaed o gynhwysion wedi’u cymysgu ymlaen llaw na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen cynhyrchion o gynhwysion wedi’u cymysgu ymlaen llaw a sut i ddelio â’r rhain
Cwmpas/ystod
1. Cynhwysion
1.1 crwst wedi’i baratoi ymlaen llaw
1.2 cymysgeddau cacennau/teisennau sbwnj
1.3 cymysgedd sgons
1.4 cymysgedd toes
1.5 cymysgedd bisgedi
1.6 cymysgedd cynhyrchion wedi’u pobi ar hambwrdd
2. Dulliau paratoi sylfaenol
2.1 cymysgu
2.2 tylino
2.3 iro
2.4 hufennu/curo
2.5 leinio
2.6 toddi
2.7 sgleinio
2.8 torri’n ddognau
2.9 rholio
2.10 siapio
2.11 torri
3. Dulliau coginio sylfaenol
3.1 pobi
3.2 ffrio dwfn
3.3 adfywio (e.e. mewn popty microdon)
4. Dulliau gorffen sylfaenol
4.1 ysgeintio / gwasgaru
4.2 llenwi
4.3 peipio
4.4 taenu / llyfnu
4.5 sgleinio
4.6 trimio