Cynhyrchu pwdinau oer a phoeth sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n cynhyrchu, yn coginio / adfywio ac yn gorffen pwdinau oer a phoeth sylfaenol. Mae’n delio â sut byddech chi’n paratoi’r seigiau yn ddiogel, dulliau coginio / adfywio priodol, a sgiliau gorffen a chyflwyno.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gynhyrchu pwdinau oer a phoeth sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynhyrchu pwdinau oer a phoeth sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod yr ardal baratoi yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gwirio bod yr holl gynhwysion yn bodloni gofynion y saig, diogelwch bwyd a’ch gweithle
- Paratoi a choginio / adfywio’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig
- Gwirio bod lliw, ansawdd a blas y saig orffenedig yn gywir
- Gwirio bod y saig yn cael ei choginio / hadfywio a’i dal ar y tymheredd cywir
- Cyflwyno a gorffen y saig i fodloni gofynion y cwsmer a’ch gweithle
- Storio unrhyw bwdinau poeth ac oer wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â gofynion y gweithle a gofynion diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen pwdinau oer a phoeth sylfaenol
- Sut i wirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion eich gweithle a’u bod yn addas i’w defnyddio, a bod eu nifer a’u hansawdd yn gywir
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhwysion, ac i bwy
- Pam mae amser a thymheredd yn bwysig wrth orffen pwdinau oer a phoeth
- Sut i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio / adfywio a gorffen perthnasol ar gyfer pob saig
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen pwdinau oer a phoeth sylfaenol
- Sut i gyflwyno pwdinau oer a phoeth sylfaenol mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
- Y gofynion storio cywir ar gyfer pwdinau oer a phoeth sylfaenol na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen pwdinau oer a phoeth sylfaenol a sut i ddelio â nhw
Cwmpas/ystod
1. Cynhwysion
1.1 hufen iâ
1.2 hufen
1.3 cynhyrchion crwst
1.4 cynhyrchion sbwnj
1.5 cynhyrchion wy
1.6 ffrwythau ffres
1.7 ffrwythau wedi’u paratoi
1.8 siocled
2. Dulliau paratoi
2.1 sleisio
2.2 hufennu
2.3 plygu
2.4 mowldio
2.5 cymysgu
2.6 awyru
2.7 ychwanegu blasau/lliwiau
2.8 gwneud purée
2.9 cyfuno
2.10 rhannu’n ddognau
2.11 oeri
3. Dulliau coginio
3.1 pobi
3.2 ffrio
3.3 grilio
3.4 adfywio (e.e. mewn popty microdon)
3.5 stemio
4. Dulliau gorffen
4.1 garneisio
4.2 tynnu o fowldiau
4.3 sleisio
4.4 rhannu’n ddognau
4.5 peipio
4.6 sgleinio