Cynhyrchu cynhyrchion bara a thoes sylfaenol

URN: PPL2PRD11
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu a Choginio Bwyd
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynhyrchu, coginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes sylfaenol. Mae’n delio â sut byddech chi’n paratoi’r saig yn ddiogel, dulliau coginio priodol, a sgiliau gorffen a chyflwyno.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gynhyrchu cynhyrchion bara a thoes sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynhyrchu cynhyrchion bara a thoes sylfaenol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Sicrhau bod yr ardal baratoi yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
  2. Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
  3. Gwirio bod yr holl gynhwysion yn bodloni gofynion y saig, diogelwch bwyd a’ch gweithle
  4. Paratoi a choginio’r cynhyrchion bara a thoes i fodloni gofynion y saig
  5. Gwirio bod lliw, ansawdd a blas y cynnyrch bara a thoes gorffenedig yn gywir
  6. Cyflwyno a gorffen y cynhyrchion bara a thoes i fodloni gofynion y cwsmer a’ch gweithle
  7. Storio unrhyw gynhyrchion bara a thoes wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â gofynion y gweithle a gofynion diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes sylfaenol
  2. Sut i wirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion eich gweithle a’u bod yn addas i’w defnyddio, a bod eu nifer a’u hansawdd yn gywir
  3. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhwysion, ac i bwy
  4. Sut i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio a gorffen perthnasol ar gyfer pob cynnyrch
  5. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes sylfaenol
  6. Sut i gyflwyno cynhyrchion bara a thoes sylfaenol mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
  7. Y gofynion storio cywir ar gyfer cynhyrchion bara a thoes sylfaenol na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
  8. Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes sylfaenol a sut i ddelio â nhw

Cwmpas/ystod

1. Cynhyrchion bara a thoes
1.1 toes byns
1.2 toes bara
1.3 toes naan
1.4 toes pitta
1.5 toes pizza
1.6 toes bara soda
1.7 cynhyrchion wedi’u coginio’n rhannol
1.8 cynhyrchion rhydd rhag glwten

2. Dulliau Paratoi a Choginio
2.1 pwyso / mesur
2.2 hidlo
2.3 cymysgu
2.4 tylino
2.5 codi
2.6 bwrw’n ôl
2.7 siapio
2.8 pobi
2.9 ffrio

3. Dulliau gorffen
3.1 sgleinio
3.2 llenwi
3.3 addurno / eisio / ysgeintio


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PRD11

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

toes, bara, sylfaenol