Cynhyrchu seigiau pysgod sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sut rydych chi’n cynhyrchu, yn coginio / adfywio ac yn gorffen seigiau pysgod sylfaenol. Mae’r safon yn cynnwys amrywiaeth o wahanol ffurfiau sy’n cynnwys pysgod, dulliau coginio / adfywio a chyflwyno’r seigiau yn gywir.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i gynhyrchu seigiau pysgod sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynhyrchu seigiau pysgod sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod yr ardal baratoi a’r cyfarpar yn lân, heb ddifrod ac yn barod i’w defnyddio yn unol â gweithdrefnau eich gweithle
- Sicrhau bod y cyfarpar (gan gynnwys cynwysyddion gwastraff) yn lân, yn briodol i’r dasg, heb ddifrod, wedi’i leoli yn y man cywir ac ymlaen yn barod i’w ddefnyddio
- Gwirio bod y pysgod a’r holl gynhwysion eraill yn bodloni gofynion y saig, diogelwch bwyd a’ch gweithle
- Paratoi a choginio / adfywio’r pysgod a’r cynhwysion eraill i fodloni gofynion y saig
- Sicrhau bod lliw, ansawdd a blas y saig pysgod orffenedig yn gywir
- Gwirio bod y saig pysgod yn cael ei choginio / hadfywio a’i dal ar y tymheredd cywir
- Cyflwyno a gorffen y saig pysgod i fodloni gofynion y cwsmer a’ch gweithle
- Storio unrhyw seigiau pysgod wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â gweithdrefnau’r gweithle a rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Arferion gweithio diogel a hylan wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen seigiau pysgod sylfaenol
- Sut i wirio bod pysgod a chynhwysion eraill yn bodloni gofynion eich gweithle, eu bod yn addas i’w defnyddio a bod eu nifer a’u hansawdd gofynnol yn gywir
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r pysgod neu’r cynhwysion eraill, ac i bwy
- Sut i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio / adfywio a gorffen perthnasol ar gyfer pob saig
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r dull coginio / adfywio mwyaf priodol ar gyfer pob math o bysgodyn
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen seigiau pysgod sylfaenol
- Sut i gyflwyno seigiau pysgod sylfaenol mewn ffordd sy’n bodloni gofynion cwsmeriaid a’ch gweithle
- Y gofynion storio cywir ar gyfer cynhyrchion pysgod sylfaenol na fyddant yn cael eu bwyta ar unwaith
- Y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth baratoi, coginio / adfywio a gorffen seigiau pysgod sylfaenol a sut i ddelio â nhw
Cwmpas/ystod
1. Pysgod
1.1 dognau pysgod
1.2 pysgod cyfan
1.3 cynhyrchion pysgod wedi’u prosesu, wedi’u hoeri (e.e. cacennau pysgod, dognau pysgod wedi’u caenu)
1.4 cynhyrchion pysgod wedi’u prosesu, wedi’u rhewi (e.e. cacennau pysgod, dognau pysgod wedi’u caenu)
2. Dulliau coginio
2.1 ffrio dwfn
2.2 ffrio bas
2.3 grilio
2.4 potsio
2.5 stemio
2.6 pobi
2.7 adfywio (e.e. mewn popty microdon)
3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 ychwanegu cyfwyd
3.3 cyflwyno