Coginio a gorffen seigiau cig sylfaenol

URN: PPL2PC8
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â choginio a gorffen seigiau cig sylfaenol, er enghraifft:
• lwyn rhost o borc
• caserol cig eidion
• cyrri cig oen
• pastai’r bugail
• coesgyn ham

Mae’r safon hon yn ymwneud ag amrywiaeth o fathau o gig, gan gynnwys cig eidion, cig oen a phorc, ac amrywiol ddulliau coginio. Yna, mae’r safon yn mynd ymlaen i ddisgrifio sut rydych chi’n gorffen saig cig trwy ddulliau gwahanol.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i goginio a gorffen seigiau cig sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Goginio a gorffen seigiau cig sylfaenol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwirio bod y cig yn bodloni gofynion y saig
  2. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i goginio a gorffen cig.
  3. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir i goginio a gorffen y cig
  4. Cyfuno’r cig â chynhwysion eraill
  5. Coginio’r cig i fodloni gofynion y saig
  6. Sicrhau bod gan y saig y blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
  7. Garneisio a chyflwyno’r saig i fodloni gofynion
  8. Sicrhau bod y saig ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
  9. Storio unrhyw gig wedi’i goginio na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i wirio bod y cig yn bodloni gofynion y saig
  2. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn amrywiaeth o gig wedi’i baratoi
  3. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cig neu gynhwysion eraill, ac i bwy
  4. Beth yw buddion selio cig
  5. Gwahanol ddarnau cig a’r dulliau mwyaf effeithiol (neu briodol) o’u coginio
  6. Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer cyflawni’r dulliau coginio gofynnol
  7. Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
  8. Sut i ddefnyddio’r dulliau coginio yn unol â gofynion y saig
  9. Pam mae’n bwysig defnyddio’r dulliau coginio a gorffen cywir ar gyfer pob math o gig a darn o gig
  10. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio cig gan ddefnyddio’r dulliau coginio a restrir a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
  11. Sut i wirio ac addasu saig cig i sicrhau bod ganddi’r blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
  12. Sut i gyflawni’r dulliau gorffen
  13. Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau cig
  14. Y gofynion storio cywir ar gyfer cig na fydd yn cael ei fwyta ar unwaith
  15. Opsiynau bwyta’n iach wrth goginio a gorffen cig

Cwmpas/ystod

1. Dulliau coginio
15.1 grilio (dros ac o dan wres)
15.2 ar gridyll
15.3 ffrio (bas / tro ffrio)
15.4 brwysio
15.5 stiwio
15.6 rhostio
15.7 stemio
15.8 berwi
15.9 gorffwys
15.10 rhannu’n ddognau
15.11 cyfuno dulliau coginio

2. Mathau o gig
2.1 cig eidion
2.2 cig oen
2.3 porc

3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 gyda saws
3.3 cyflwyno


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PC8

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

coginio, gorffen, cig, sylfaenol