Paratoi cig ar gyfer seigiau sylfaenol

URN: PPL2PC7
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi cig (heblaw dofednod) ar gyfer seigiau sylfaenol.

Mae’r safon hon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi sy’n gysylltiedig â’r gwahanol fathau o gig, heblaw dofednod.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi cig ar gyfer seigiau sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi cig ar gyfer seigiau sylfaenol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o gig a faint sydd ei angen i’w baratoi
  2. Gwirio bod y cig yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi’r cig
  4. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi’r cig
  5. Paratoi’r cig i fodloni gofynion y saig
  6. Storio unrhyw gig a baratowyd na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gwahanol fathau o gigoedd a ddefnyddir yn gyffredin a sut i’w hadnabod
  2. Y darnau gorau o gigoedd a ddefnyddir yn gyffredin
  3. Sut i wirio bod y cig yn bodloni gofynion
  4. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cig ffres
  5. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cig neu gynhwysion eraill, ac i bwy
  6. Yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol
  7. Sut i gyflawni’r dulliau paratoi yn gywir
  8. Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir wrth baratoi’r cig
  9. Sut i storio cig a baratowyd yn gywir
  10. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi cig

Cwmpas/ystod

1. Mathau o gig
10.1 cig eidion
10.2 cig oen
10.3 porc

2. Dulliau paratoi
2.1 torri (sleisio / deisio)
2.2 sesno/marinadu
2.3 trimio
2.4 tynnu’r esgyrn
2.5 clymu
2.6 tyneru/breuo
2.7 rhannu’n ddognau
2.8 marinadu / ychwanegu rhwb sych
2.9 stwffio / llenwi


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PC7

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

paratoi, cig, seigiau, sylfaenol