Paratoi pysgod cregyn ar gyfer seigiau sylfaenol

URN: PPL2PC5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi pysgod cregyn ar gyfer seigiau
sylfaenol.

Mae’r safon hon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi a physgod cregyn sy’n gramenogion ac yn folysgiaid.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi pysgod cregyn ar gyfer seigiau sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi pysgod cregyn ar gyfer seigiau sylfaenol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o bysgod cregyn a faint sydd eu hangen i’w paratoi
  2. Gwirio bod y pysgod cregyn yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi’r pysgod cregyn
  4. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi’r pysgod cregyn
  5. Paratoi’r pysgod cregyn i fodloni gofynion y saig
  6. Storio unrhyw bysgod cregyn a baratowyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gwahanol fathau o bysgod cregyn a ddefnyddir yn gyffredin a sut i’w hadnabod
  2. Sut i wirio bod y pysgod cregyn yn bodloni gofynion
  3. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn pysgod cregyn ffres
  4. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r pysgod neu gynhwysion eraill, ac i bwy
  5. Yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi
  6. Sut i gyflawni’r dulliau paratoi yn gywir
  7. Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir wrth baratoi’r pysgod cregyn
  8. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn pysgod cregyn wedi’u paratoi
  9. Sut i storio pysgod cregyn a baratowyd yn gywir
  10. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi pysgod cregyn

Cwmpas/ystod

1. Pysgod cregyn
10.1 cramenogion
10.2 molysgiaid

2. Dulliau paratoi
2.1 glanhau
2.2 agor/tynnu’r gragen
2.3 golchi
2.4 caenu
2.5 torri


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PC5

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

paratoi, pysgod cregyn, seigiau, sylfaenol