Cyfrannu at arferion cynaliadwy mewn ceginau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithio mewn ffordd gynaliadwy mewn cegin fasnachol.
Bydd angen i chi weithio’n effeithiol i sicrhau bod cyfleustodau ac adnoddau eraill yn cael eu defnyddio’n effeithlon, ac i leihau gwastraff. Yn ogystal, mae angen i chi asesu eich perfformiad eich hun a nodi cyfleoedd i wella effeithlonrwydd, a’u rhoi ar waith.
Argymhellir y safon hon ar gyfer cogyddion llinell, cynhyrchu, iau a chefs eraill sy’n gweithio mewn ceginau masnachol.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gyfrannu at arferion cynaliadwy mewn ceginau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gweithio yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol
- Asesu eich perfformiad eich hun i nodi gwelliannau posibl mewn effeithlonrwydd
- Rhoi gwybod yn gywir am unrhyw gyfleoedd i wella effeithlonrwydd cyfleustodau ac adnoddau eraill
- Rhoi gwybod yn brydlon ac yn gywir am amrywiadau yn y defnydd o gyfleustodau ac adnoddau ac unrhyw gamau rydych chi wedi’u cymryd i ymateb
- Rhoi camau gweithredu ar waith i wella effeithlonrwydd y defnydd o gyfleustodau ac adnoddau eraill
- Gweithio’n effeithlon yn unol â manylebau’r fwydlen i osgoi a lleihau gwastraff
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Terminoleg a ddefnyddir yn gysylltiedig â chynaliadwyedd mewn ceginau masnachol
- Pam mae ceginau masnachol yn defnyddio bwyd o ffynonellau cynaliadwy
- Pa gyfleustodau ac adnoddau sy’n cael eu defnyddio mewn ceginau masnachol a sut maent yn cael eu defnyddio
- Pam mae angen i geginau masnachol leihau’r defnydd o gyfleustodau
- Sut gallai ceginau masnachol wella’r defnydd o gyfleustodau
- Pa fentrau’r llywodraeth all helpu i wella’r defnydd o gyfleustodau
Cwmpas/ystod
1. Cyfleustodau ac adnoddau eraill
1.1 nwy
1.2 trydan
1.3 dŵr
1.4 bwyd
1.5 adnoddau tafladwy
1.6 amrywiol bethau e.e. tunffoil, cling ffilm