Paratoi a chymysgu cymysgeddau sbeisys a pherlysiau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis, paratoi a blendio amrywiaeth o sbeisys a pherlysiau i gynhyrchu cymysgeddau sbeisys yn barod ar gyfer coginio, er enghraifft:
• cymysgeddau sbeisys sych
• past e.e. cyrri gwyrdd Thai
Gallai sbeisys gynnwys cwmin a sinsir; gallai perlysiau fod yn frenhinllys (basil) neu’n goriander ffres. Mae’r safon yn ymwneud â’r dulliau paratoi a ddefnyddir i wneud y cymysgeddau sbeisys a pherlysiau ynghyd â thechnegau coginio, lle bo hynny’n berthnasol.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a chymysgu cymysgeddau sbeisys a pherlysiau; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a chymysgu cymysgeddau sbeisys a pherlysiau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen ar gyfer y cymysgedd sbeisys / blend perlysiau
- Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd
- Dewis a defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir i baratoi a chymysgu cymysgeddau sbeisys a pherlysiau
- Cyfuno’r cynhwysion yn unol â gofynion y cymysgedd sbeisys neu berlysiau
- Prosesu’r cymysgedd sbeisys / perlysiau i fodloni gofynion
- Sicrhau bod gan y cymysgedd sbeisys / blend perlysiau'r blas, y lliw, yr arogl a’r tewychedd cywir, a bod y maint yn gywir
- Sicrhau bod y cymysgedd sbeisys / blend perlysiau ar y tymheredd cywir i’w ddal a’i weini
- Storio unrhyw gymysgeddau sbeisys / perlysiau a goginiwyd neu heb eu coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith mewn ffordd sy’n gwarchod y blas, y lliw, yr arogl a’r tewychedd, yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i ddewis y math cywir o gynhwysion, eu hansawdd a faint sydd eu hangen i fodloni gofynion y cymysgedd sbeisys / blend perlysiau
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cynhwysion cymysgedd sbeisys
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r sbeisys, perlysiau neu gynhwysion eraill, ac i bwy
- Beth yw’r offer a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi yn unol â gofynion y cymysgedd sbeisys / blend perlysiau
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio/tostio sbeisys
- Sut i adnabod pan fydd gan sbeisys unigol a chymysgeddau sbeisys y lliw, y blas a’r tewychedd cywir, a bod y maint yn gywir
- Sut i orffen a stori’r cymysgeddau sbeisys / perlysiau
- Sut i leihau a chywiro camgymeriadau cyffredin mewn cymysgeddau sbeisys / perlysiau
- Sut i gydbwyso blas, ansawdd, lliw, tewychedd a safon y cymysgedd sbeisys / blend perlysiau terfynol
- Pa bwyntiau ansawdd sy’n gysylltiedig â chymysgeddau sbeisys / perlysiau
- Y tymereddau a’r amodau cywir ar gyfer dal a storio cymysgeddau sbeisys / perlysiau
- Sut i storio cymysgeddau sbeisys / perlysiau
Cwmpas/ystod
1. Cynhwysion
13.1 sbeisys a pherlysiau ffres
13.2 sbeisys a pherlysiau sych
13.3 llysiau
2. Dulliau paratoi
2.1 glanhau a thrimio
2.2 pwyso/mesur
2.3 torri
2.4 mathru
2.5 pwyo
2.6 malu
2.7 cymysgu
3. Cyfarpar
3.1 peiriant malu sbeisys
3.2 breuan a phestl
3.3 cyllyll