Prosesu cynhwysion sych cyn eu coginio
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â phrosesu cynhwysion sych cyn eu coginio.
Mae’r seigiau y gallai’r broses hon fod yn ofynnol ar eu cyfer yn cynnwys rhai seigiau Asiaidd neu ddefnyddio madarch sych mewn risoto. Mae’n ymwneud â gwahanol fathau o gynhwysion sych, gan gynnwys cig, pysgod, pysgod cregyn, llysiau a ffyngau. Mae’r safon yn cynnwys rhannu’n ddognau, ailhydradu a chyfuno â chynhwysion eraill fel dulliau prosesu.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i brosesu cynhwysion sych cyn eu coginio; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Sicrhau bod arferion diogelwch bwyd yn cael eu dilyn wrth baratoi a gweini bwyd a diod
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Brosesu cynhwysion sych cyn eu coginio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod y bwydydd sych yn bodloni gofynion y saig
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i brosesu cynhwysion sych cyn eu coginio
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth brosesu cynhwysion sych cyn eu coginio
- Ailhydradu bwydydd sych yn y modd cywir i fodloni gofynion y saig
- Sicrhau bod blas, lliw ac ansawdd y bwyd wedi’i ailhydradu yn gywir, a bod y maint yn gywir
- Gwaredu rhannau anfwytadwy o’r bwyd wedi’i ailhydradu
- Sicrhau bod y bwyd wedi’i ailhydradu yn cael ei gadw’n barod i'w gyfuno â chynhwysion eraill mewn ffordd sy’n diogelu ei liw, ei dewychedd a’i flas
- Storio unrhyw fwyd wedi’i ailhydradu na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i ddewis y math cywir o gynhwysion sych, eu hansawdd a faint mae eu hangen i fodloni gofynion y saig
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cynhwysion sych
- Beth ddylech ei wneud os bydd problemau gyda’r cynhwysion sych
- Sut i gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol yn unol â gofynion y saig
- Sut i leihau a chywiro camgymeriadau cyffredin wrth ddefnyddio cynhwysion sych
- Sut i adnabod pan fydd gan gynhwysion sych y lliw, y blas a’r ansawdd cywir, a bod y maint yn gywir, ar ôl eu hailhydradu
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal a storio cynhwysion sych
- Sut i storio cynhwysion wedi’u hailhydradu, sydd heb eu coginio
Cwmpas/ystod
1. Bwydydd Sych
1.1 cig sych
1.2 pysgod a physgod cregyn sych
1.3 llysiau a ffyngau sych
2. Dulliau paratoi
2.1 glanhau
2.2 mwydo
2.3 golchi
2.4 hidlo