Paratoi a choginio bwyd gan ddefnyddio ffwrn glai
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi bwyd ar gyfer ffwrn glai (tandoor) a’i defnyddio.
Gallai seigiau gynnwys:
• cyw iâr tandoori
• cebabau
• pysgod tandoori
• naan
Mae’r safon yn ymwneud â dulliau paratoi ynghyd â’r technegau coginio.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi a choginio bwyd gan ddefnyddio ffwrn glai (tandoor); fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi a choginio bwyd gan ddefnyddio ffwrn glai
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen i’w paratoi
- Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir ar gyfer paratoi a choginio gan ddefnyddio ffwrn glai
- Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi a choginio bwyd gan ddefnyddio ffwrn glai
- Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig
- Paratoi’r bwyd i’w goginio i fodloni gofynion y saig
- Paratoi’r ffwrn glai (tandoor) i sicrhau ei bod yn coginio ar y tymheredd gofynnol
- Gosod y bwyd yn y ffwrn glai yn y safle priodol
- Coginio’r bwyd i fodloni gofynion y saig
- Garneisio a chyflwyno yn unol â gofynion y saig
- Storio unrhyw eitemau bwyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o fwydydd all gael eu coginio mewn ffwrn glai
- Sut i sicrhau bod y cynhwysion yn bodloni gofynion y saig
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cynhwysion saig ffwrn glai
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r ffwrn neu’r cynhwysion, ac i bwy
- Yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir ar gyfer paratoi a choginio gan ddefnyddio ffwrn glai
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau ffwrn glai
- Sut i baratoi’r ffwrn glai ar gyfer coginio
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio mewn ffwrn glai
- Sut i leihau a chywiro camgymeriadau cyffredin wrth goginio mewn ffwrn glai
- Sut i gyflawni’r dulliau gorffen
- Sut i wirio ac addasu saig ffwrn glai i sicrhau bod ganddi’r lliw, y blas a’r ansawdd cywir, a bod ei maint yn gywir
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau ffwrn glai
- Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio seigiau ffwrn glai na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau ffwrn glai
Cwmpas/ystod
1. Bwyd i’w goginio
14.1 darnau cyfan o gig a physgod
14.2 cebabau
14.3 bara
2. Dulliau paratoi
2.1 marinadu a chaenu
2.2 gosod ar sgiwerau
2.3 siapio
3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 cyflwyno