Paratoi, coginio a gorffen seigiau nwdls
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen nwdls ffres, nwdls sych a seigiau nwdls.
Mae nwdls ffres a sych wedi’u cynnwys yn y safon, ac amrywiaeth o ddulliau paratoi a choginio sy’n gysylltiedig â nwdls.
Mae’r technegau paratoi a choginio sy’n cael sylw yn cynnwys:
• rhannu’n ddognau
• berwi
• mwydo
• cyfuno dulliau coginio
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen seigiau nwdls; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen seigiau nwdls sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod y nwdls a’r cynhwysion eraill yn bodloni gofynion y saig
- Dewis a defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir yn gywir ar gyfer paratoi, coginio a gorffen seigiau nwdls
- Paratoi’r a choginio’r nwdls a’r cynhwysion eraill i fodloni gofynion y saig
- Sicrhau bod gan y saig nwdls y blas, y lliw a’r ansawdd cywir, a bod ei maint yn gywir
- Cyflwyno a garneisio’r saig nwdls i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y saig nwdls ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
- Storio unrhyw seigiau nwdls a goginiwyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o seigiau nwdls a’u nodweddion
- Sut i ddewis y math cywir o nwdls a chynhwysion eraill, eu hansawdd a faint mae eu hangen i fodloni gofynion y saig
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn nwdls
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r nwdls neu gynhwysion eraill, ac i bwy
- Yr offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen, yn unol â gofynion y saig
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau nwdls
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio nwdls a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
- Sut i wirio ac addasu seigiau nwdls i sicrhau bod ganddynt y lliw, y blas a’r ansawdd cywir, a bod eu maint yn gywir
- Y tymheredd cywir ar gyfer dal a gweini seigiau nwdls
- Sut i storio nwdls heb eu coginio, nwdls sych a nwdls ffres
- Sut i storio nwdls wedi’u coginio a seigiau nwdls
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau nwdls
Cwmpas/ystod
1. Nwdls
13.1 nwdls ffres
13.2 nwdls sych
2. Dulliau paratoi
2.1 mwydo
2.2 blansio
2.3 hidlo
2.4 cymysgu
3. Dulliau coginio
3.1 berwi
3.2 stemio
3.3 ffrio dwfn
3.4 ffrio mewn wok
3.5 cyfuno dulliau coginio
4. Dulliau gorffen
4.1 garneisio
4.2 cyflwyno