Paratoi, coginio a gorffen dim sum
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi’r seigiau dim sum mwyaf cyffredin o gynhwysion amrwd a’u coginio a’u gorffen.
Mae’r safon yn bwrw golwg ar amrywiol ddulliau paratoi ac yna sut i goginio a gorffen seigiau dim sum.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen dim sum; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen seigiau dim sum sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen ar gyfer y cynnyrch
- Gwirio’r cynhwysion i sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i baratoi, llenwi a rhoi dim sum at ei gilydd
- Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, llenwi a rhoi dim sum at ei gilydd
- Paratoi a chyfuno cynhwysion i fodloni gofynion y saig
- Llenwi toes a gorchuddion gyda’r maint cywir o lenwad
- Siapio’r dim sum i’r safon ofynnol
- Coginio’r dim sum gan ddefnyddio’r dull coginio priodol
- Sicrhau bod gan y cynnyrch y lliw, yr ansawdd a’r gorffeniad cywir, a bod ei faint yn gywir
- Sicrhau bod y cynnyrch ar y tymheredd cywir i’w ddal a’i storio
- Storio unrhyw gynhyrchion wedi’u coginio na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i ddewis y math cywir o gynhwysion, eu hansawdd a faint ohonynt i fodloni gofynion y cynnyrch
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt yn y cynhwysion
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhwysion, ac i bwy
- Beth yw’r offer a’r cyfarpar cywir a’r rhesymau dros eu defnyddio wrth gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
- Pa ddulliau paratoi a choginio sy’n briodol i bob math o gynnyrch dim sum
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi yn unol â gofynion y cynnyrch
- Sut i adnabod pan fydd lliw, blas, ansawdd a maint llenwadau dim sum yn gywir
- Y pwyntiau ansawdd sy’n gysylltiedig â thoes dim sum a gorchuddion won ton wedi’u paratoi
- Sut i leihau a chywiro namau cyffredin â llenwadau, toes a gorchuddion dim sum
- Sut i reoli meintiau dognau a lleihau gwastraff
- Y tymereddau cywir ar gyfer storio llenwadau dim sum na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
- Sut i storio llenwadau dim sum
- Y gofynion storio/dal a’r amodau delfrydol ar gyfer cynhyrchion toes dim sum a gorchuddion won ton wedi’u prosesu, a pha ragofalon y dylid eu cymryd wrth eu storio
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi a choginio dim sum
- Effeithiau gwahanol dymereddau a lleithder ar y cynhwysion a ddefnyddir
- Y pwyntiau ansawdd sy’n gysylltiedig â thoes a gorchuddion dim sum wedi’u gorffen
- Y pwyntiau ansawdd sy’n gysylltiedig â chynhyrchion dim sum wedi’u gorffen
Cwmpas/ystod
1. Cynhwysion
17.1 pysgod a physgod cregyn amrwd
17.2 cig a dofednod amrwd
17.3 llysiau a chynnyrch llysiau
17.4 sesnin a sawsiau
17.5 cynhwysion sych
2. Toes a gorchuddion
2.1 toes
2.2 gorchuddion won ton
2.3 casin crwst
2.4 cheung fun
3. Dim sum
3.1 mewn toes
3.2 mewn gorchuddion won ton
3.3 cheung fun
3.4 crwst
4. Dulliau paratoi
4.1 pwyso/mesur
4.2 torri
4.3 cymysgu
4.4 cymysgu/tylino
4.5 siapio
4.6 cyfuno â brasterau
4.7 selio
4.8 rhannu’n ddognau
5. Dulliau coginio
5.1 stemio
5.2 berwi
5.3 ffrio
5.4 pobi
5.5 cyfuno dulliau coginio
6. Dulliau gorffen
6.1 rhannu’n ddognau
6.2 garneisio
6.3 ychwanegu cyfwydydd