Paratoi, coginio a gorffen seigiau grawn sylfaenol

URN: PPL2PC26
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen seigiau grawn sylfaenol, er enghraifft:
• saladau grawn
• crempog gwenith yr hydd
• seigiau polenta
• tabbouleh gwenith bwlgar
• seigiau ochr couscous
• topin crymbl (melys neu sawrus) gan ddefnyddio ceirch
• saladau cwinoa

Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o fathau o rawn, gan gynnwys ceirch, miled, couscous a chwinoa, ymhlith eraill. Mae dulliau paratoi a choginio yn cael sylw, ynghyd â sut i orffen saig grawn sylfaenol.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen seigiau grawn sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen seigiau grawn sylfaenol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o rawn a chynhwysion eraill a faint sydd eu hangen i’w paratoi
  2. Gwirio bod y grawn a’r cynhwysion eraill yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi, coginio a gorffen y saig grawn
  4. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y saig grawn
  5. Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig grawn
  6. Coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig grawn
  7. Sicrhau bod gan y saig grawn y blas, y lliw a’r ansawdd cywir, a bod ei maint yn gywir
  8. Garneisio a chyflwyno’r saig grawn i fodloni gofynion
  9. Sicrhau bod y saig grawn ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
  10. Storio unrhyw gynhyrchion grawn a goginiwyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gwahanol fathau o rawn a’u nodweddion
  2. Bwydydd eraill y gellir defnyddio grawn yn eu lle
  3. Sut i sicrhau bod y grawn a chynhwysion eraill yn bodloni gofynion y cynnyrch
  4. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn grawn
  5. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r grawn neu gynhwysion eraill, ac i bwy
  6. Yr offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
  7. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen, yn unol â gofynion y cynnyrch
  8. Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau grawn
  9. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio seigiau grawn a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
  10. Sut i wirio ac addasu seigiau grawn i sicrhau bod ganddynt y lliw, y blas a’r ansawdd cywir, a bod eu maint yn gywir
  11. Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau grawn
  12. Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio seigiau grawn na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
  13. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau grawn

Cwmpas/ystod

1. Grawn
13.1 haidd (gwyn / potes)
13.2 gwenith yr hydd
13.3 ŷd / india-corn (polenta)
13.4 ceirch
13.5 miled
13.6 gwenith (bwlgar / semolina / couscous)
13.7 cwinoa

2. Dulliau paratoi a choginio
2.1 mwydo
2.2 berwi
2.3 eu gadael dan orchudd
2.4 pobi

3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 ychwanegu cyfwydydd
3.3 cyflwyno
3.4 cyfuno â chynhwysion eraill


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PC26

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

paratoi, coginio, gorffen, seigiau, grawn, sylfaenol