Paratoi, coginio a gorffen cacennau, teisennau sbwnj, bisgedi a sgons sylfaenol

URN: PPL2PC25
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen cacennau, teisennau sbwnj, bisgedi a sgons sylfaenol, er enghraifft:
• sbwnj fictoria
• sgons ffrwythau
• cacen ffrwythau
• teisen frau

Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi cyn symud ymlaen i ddulliau coginio, yna sut i orffen cacennau, teisennau sbwnj, bisgedi a sgons sylfaenol.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen cacennau, teisennau sbwnj, bisgedi a sgons sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen cacennau, teisennau sbwnj, bisgedi a sgons sylfaenol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen i’w paratoi
  2. Gwirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi, coginio a gorffen y gacen, y sbwnj, y bisgedi neu’r sgons
  4. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y gacen, y sbwnj, y bisgedi neu’r sgons
  5. Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y gacen, y sbwnj, y bisgedi neu’r sgons
  6. Coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y gacen, y sbwnj, y bisgedi neu’r sgons
  7. Sicrhau bod gan y gacen, y sbwnj, y bisgedi neu’r sgons y blas, y lliw, yr ansawdd a’r gorffeniad cywir, a bod eu maint yn gywir
  8. Gorffen a chyflwyno’r gacen, y sbwnj, y bisgedi neu’r sgons i fodloni gofynion
  9. Sicrhau bod y gacen, y sbwnj, y bisgedi neu’r sgons ar y tymheredd cywir i’w dal a’u gweini
  10. Storio unrhyw gacennau, teisennau sbwnj, bisgedi neu sgons a goginiwyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gwahanol fathau o gacennau, teisennau sbwnj, bisgedi a sgons a’u nodweddion
  2. Sut i sicrhau bod y cynhwysion yn bodloni gofynion y cynnyrch
  3. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cacennau, teisennau sbwnj, bisgedi a sgons
  4. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cacennau, y teisennau sbwnj, y bisgedi a’r sgons neu gynhwysion eraill, ac i bwy
  5. Yr offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
  6. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen, yn unol â gofynion y cynnyrch
  7. Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio/pobi a gorffen cacennau, teisennau sbwnj, bisgedi a sgons
  8. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio cacennau, teisennau sbwnj, bisgedi a sgons a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
  9. Sut i wirio ac addasu cacennau, teisennau sbwnj, bisgedi a sgons i sicrhau bod ganddynt y lliw, y blas, yr ansawdd a’r gorffeniad cywir, a bod eu maint yn gywir
  10. Y tymereddau a’r amodau cywir ar gyfer dal a gweini cacennau, teisennau sbwnj, bisgedi a sgons
  11. Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio cacennau, teisennau sbwnj, bisgedi a sgons na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
  12. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen cacennau, teisennau sbwnj, bisgedi a sgons

Cwmpas/ystod

1. Dulliau paratoi
12.1 defnyddio cymysgedd parod
12.2 pwyso / mesur
12.3 hufennu / curo
1.5 plygu i mewn
1.6 rhwbio i mewn
1.7 iro
1.8 sgleinio
1.9 rhannu’n ddognau
1.10 peipio
1.11 siapio
1.12 llenwi
1.13 rholio
1.14 leinio
1.15 trimio / eisio
1.16 taenu / llyfnu
1.17 tylino
1.18 cymysgu

2. Dulliau coginio
2.1 Pobi

3. Cynnyrch
3.1 cacennau
3.2 teisennau sbwnj
3.3 bisgedi
3.4 sgons

4. Dulliau gorffen
4.1 ysgeintio / gwasgaru
4.2 eisio
4.3 cyflwyno
4.4 ychwanegu cyfwydydd


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PC25

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

Paratoi, coginio, gorffen, cacennau, teisennau sbwnj, bisgedi, sgons, sylfaenol