Paratoi, coginio a gorffen cynhyrchion crwst sylfaenol

URN: PPL2PC24
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen cynhyrchion crwst sylfaenol, er enghraifft:
• eclair siocled
• tarten afal
• quiche sawrus
• teisen afal ar y maen/pastai afal
• pwdin stêc a lwlod

Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi a choginio sy’n gysylltiedig â chynhyrchion crwst o bob math.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion crwst sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion crwst sylfaenol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen i’w paratoi
  2. Gwirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi, coginio a gorffen y cynnyrch crwst
  4. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y cynnyrch crwst
  5. Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y cynnyrch crwst
  6. Coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y cynnyrch crwst
  7. Sicrhau bod gan y cynnyrch crwst y blas, y lliw, yr ansawdd a’r gorffeniad cywir, a bod ei faint yn gywir
  8. Garneisio a chyflwyno’r cynnyrch crwst i fodloni gofynion
  9. Sicrhau bod y cynnyrch crwst ar y tymheredd cywir i’w ddal a’i weini
  10. Storio unrhyw gynnyrch crwst a goginiwyd na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gwahanol fathau o grwst a’u nodweddion
  2. Sut i sicrhau bod y cynhwysion yn bodloni gofynion y cynnyrch
  3. Pam mae’n bwysig dilyn rysáit yn gywir wrth baratoi cynhyrchion crwst
  4. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn amrywiaeth o fathau o grwst
  5. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r crwst neu gynhwysion eraill, ac i bwy
  6. Yr offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
  7. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen, yn unol â gofynion y cynnyrch
  8. Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion crwst
  9. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio cynhyrchion crwst a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
  10. Sut i wirio ac addasu cynnyrch crwst i sicrhau siŵr bod ganddo’r lliw, y blas, yr ansawdd a’r gorffeniad cywir, a bod ei faint yn gywir
  11. Y tymereddau a’r amodau cywir ar gyfer dal a gweini cynhyrchion crwst
  12. Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio cynhyrchion crwst na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
  13. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion crwst

Cwmpas/ystod

1. Crwst
13.1 brau
13.2 melys
13.3 siwed
13.4 choux
13.5 rhewedig

2. Dulliau paratoi
2.1 pwyso/mesur
2.2 hidlo
2.3 rhwbio i mewn
2.4 hufennu
2.5 gorffwys
2.6 peipio
2.7 rholio
2.8 torri/siapio/trimio
2.9 leinio

3. Dulliau coginio
3.1 pobi
3.2 stemio
3.3 ffrio dwfn
3.4 cyfuno dulliau coginio

4. Dulliau gorffen
4.1 garneisio
4.2 cyflwyno


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PC24

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

paratoi, coginio, gorffen, crwst, sylfaenol