Paratoi, coginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes sylfaenol, er enghraifft:
• cynhyrchion toes wedi’i gyfoethogi e.e. byns Chelsea, toesenni
• bara, rholiau bara
• naan
• pita
• pizzas
• toes bara soda
Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi a choginio sy’n gysylltiedig â chynhyrchion bara a thoes sylfaenol. Hefyd, mae’r safon yn ymwneud â dulliau gorffen ar gyfer cynhyrchion bara a thoes.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen i’w paratoi
- Gwirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi, coginio a gorffen y cynnyrch bara a thoes
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y cynnyrch bara a thoes
- Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y cynnyrch bara a thoes
- Coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y cynnyrch bara a thoes
- Sicrhau bod gan y cynnyrch bara a thoes y blas, y lliw, yr ansawdd a’r gorffeniad cywir, a bod ei faint yn gywir
- Garneisio a chyflwyno’r cynnyrch bara a thoes i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y cynnyrch bara a thoes ar y tymheredd cywir i’w ddal a’i weini
- Storio unrhyw gynhyrchion bara a thoes a goginiwyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o gynhyrchion bara a thoes a’u nodweddion
- Sut i sicrhau bod y cynhwysion yn bodloni gofynion y cynnyrch
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cynhyrchion bara a thoes
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhyrchion bara neu does neu gynhwysion eraill, ac i bwy
- Yr offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen, yn unol â gofynion y cynnyrch
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio cynhyrchion bara a thoes a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
- Sut i wirio ac addasu cynnyrch bara a thoes i sicrhau bod ganddo’r lliw, y blas, yr ansawdd a’r gorffeniad cywir, a bod ei faint yn gywir
- Y tymereddau a’r amodau cywir ar gyfer dal a gweini cynhyrchion bara a thoes
- Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio cynhyrchion bara a thoes na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen cynhyrchion bara a thoes
Cwmpas/ystod
1. Cynhyrchion bara a thoes
12.1 toes wedi’i gyfoethogi
12.2 toes bara soda
12.3 toes bara
12.4 toes naan / pita
12.5 toes pizza
2. Dulliau paratoi
2.1 pwyso / mesur
2.2 hidlo
2.3 cymysgu / tylino
2.4 codi
2.5 bwrw’n ôl
2.6 siapio
3. Dulliau coginio
3.1 pobi
3.2 ffrio
4. Dulliau gorffen
4.1 sgleinio
4.2 eisio
4.3 llenwi
4.4 addurno