Paratoi, coginio a gorffen seigiau sylfaenol wedi’u gwneud o blanhigion

URN: PPL2PC21
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen seigiau sylfaenol wedi’u gwneud o blanhigion, er enghraifft:
• tsili
• seigiau melys a sur
• spaghetti bolognaise
• pastai’r bwthyn

Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o fathau o gynhyrchion wedi’u gwneud o blanhigion a’r amrywiol ddulliau paratoi a choginio sy’n gysylltiedig â’r cynhwysion hyn.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen seigiau sylfaenol wedi’u gwneud o blanhigion; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen seigiau sylfaenol wedi’u gwneud o blanhigion


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o gynhwysion wedi’u gwneud o blanhigion a chynhwysion eraill, a faint sydd eu hangen i’w paratoi
  2. Gwirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi, coginio a gorffen y seigiau wedi’u gwneud o blanhigion
  4. Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y saig wedi’i gwneud o blanhigion
  5. Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig wedi’i gwneud o blanhigion
  6. Coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig wedi’i gwneud o blanhigion
  7. Sicrhau bod gan y saig wedi’i gwneud o blanhigion y blas, y lliw a’r ansawdd cywir, a bod ei maint yn gywir
  8. Garneisio a chyflwyno’r saig wedi’i gwneud o blanhigion i fodloni gofynion
  9. Sicrhau bod y saig wedi’i gwneud o blanhigion ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
  10. Storio unrhyw seigiau wedi’u gwneud o blanhigion a goginiwyd, na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith, yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Manteision defnyddio cynhwysion wedi’u gwneud o blanhigion i rai cwsmeriaid
  2. Sut i wirio bod y cynhwysion wedi’u gwneud o blanhigion a’r cynhwysion eraill yn bodloni gofynion y saig
  3. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cynhwysion wedi’u gwneud o blanhigion
  4. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhwysion wedi’u gwneud o blanhigion neu gynhwysion eraill, ac i bwy
  5. Yr offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol
  6. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen yn unol â gofynion y saig
  7. Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau wedi’u gwneud o blanhigion
  8. Y tymereddau cywir ar gyfer seigiau wedi’u gwneud o blanhigion a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
  9. Sut i wirio ac addasu saig wedi’i gwneud o blanhigion i sicrhau bod ganddi’r lliw, y blas, yr ansawdd a’r gorffeniad cywir, a bod ei maint yn gywir
  10. Y tymereddau a’r amodau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau wedi’u gwneud o blanhigion
  11. Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio seigiau wedi’u gwneud o blanhigion na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
  12. Opsiynau bwyta’n iach wrth wneud seigiau wedi’u gwneud o blanhigion

Cwmpas/ystod

1. Cynhwysion wedi’u gwneud o blanhigion
12.1 soia
12.2 Quorn
12.3 seitan
12.4 tofu solet
12.5 tofu meddal
12.6 aquafaba
12.7 llysiau / ffacbys

2. Dulliau paratoi
2.1 mwydo
2.2 golchi

3. Dulliau coginio
3.1 berwi
3.2 brwysio
3.3 stemio
3.4 ffrio dwfn
3.5 stiwio
3.6 hidlo
3.7 rhostio
3.8 pobi
3.9 ffrio
3.10 sauté

4. Dulliau gorffen
4.1 garneisio
4.2 gyda saws
4.3 cyflwyno


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PC21

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

paratoi, coginio, gorffen, llysiau, sylfaenol, protein