Paratoi, coginio a gorffen seigiau ffacbys sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen seigiau ffacbys sylfaenol, er enghraifft:
• falafel
• hummus
• byrgyrs ffa
• torthau neu ffriterau corbys
Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o fathau o ffacbys, eu paratoi a sut i’w coginio.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen seigiau ffacbys sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen seigiau ffacbys sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o ffacbys a chynhwysion eraill, a faint sydd eu hangen i’w paratoi
- Gwirio bod y ffacbys a’r cynhwysion eraill yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi, coginio a gorffen y saig ffacbys
- Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y saig ffacbys
- Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig ffacbys
- Coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig ffacbys
- Sicrhau bod gan y saig ffacbys y blas, y lliw a’r ansawdd cywir, a bod ei maint yn gywir
- Garneisio a chyflwyno’r saig ffacbys i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y saig ffacbys ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
- Storio unrhyw brydau ffacbys a goginiwyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o seigiau ffacbys a’u nodweddion
- Sut i wirio bod y ffacbys a’r cynhwysion eraill yn bodloni gofynion y saig
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn ffacbys
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r ffacbys neu gynhwysion eraill, ac i bwy
- Yr offer a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen yn unol â gofynion y saig
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau ffacbys
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio ffacbys a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
- Sut i wirio ac addasu saig ffacbys i sicrhau bod ganddi’r lliw, y blas a’r ansawdd cywir, a bod ei maint yn gywir
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau ffacbys
- Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio seigiau ffacbys na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau ffacbys
Cwmpas/ystod
1. Ffacbys
12.1 ffa
12.2 pys
12.3 corbys
2. Dulliau paratoi
2.1 mwydo a golchi
2.2 plicio / plisgo
3. Dulliau coginio
3.1 berwi
3.2 brwysio
3.3 stemio
3.4 stiwio
3.5 gwneud pureé
3.6 ffrio dwfn
3.7 pobi
3.8 cyfuno dulliau coginio
4. Dulliau gorffen
4.1 garneisio
4.2 gyda saws
4.3 cyflwyno