Paratoi, coginio a gorffen seigiau pasta sylfaenol

URN: PPL2PC19
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen seigiau pasta sylfaenol, er enghraifft:
• lasagne (alforno, agored)
• macaroni a chaws
• cannelloni
• spaghetti bolognaise
• ravioli

Mae’r safon yn ymwneud â mathau amrywiol o basta, sych a ffres, a’r technegau paratoi a choginio cysylltiedig.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen seigiau pasta sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen seigiau pasta sylfaenol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o basta a chynhwysion eraill, a faint sydd eu hangen i’w paratoi
  2. Gwirio bod y pasta a’r cynhwysion eraill yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi, coginio a gorffen y saig pasta
  4. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y saig pasta
  5. Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y pasta
  6. Coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y saig pasta
  7. Sicrhau bod gan y saig pasta'r blas, y lliw a’r ansawdd cywir, a bod ei maint yn gywir
  8. Garneisio a chyflwyno’r saig pasta i fodloni gofynion
  9. Sicrhau bod y saig pasta ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
  10. Storio unrhyw basta a goginiwyd na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gwahanol fathau o seigiau pasta a’u nodweddion
  2. Sut i wirio bod y pasta a’r cynhwysion eraill yn bodloni gofynion y saig
  3. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn pasta
  4. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r pasta neu gynhwysion eraill, ac i bwy
  5. Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer y dulliau paratoi a choginio gofynnol
  6. Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen
  7. Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau pasta
  8. Y tymereddau cywir ar gyfer coginio pasta a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
  9. Sut i wirio ac addasu saig pasta i sicrhau bod ganddi’r blas, y lliw a’r ansawdd cywir, a bod ei maint yn gywir
  10. Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau pasta
  11. Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio seigiau pasta na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
  12. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi, coginio a gorffen seigiau pasta

Cwmpas/ystod

  1. Pasta
    12.1 pasta wedi’i lenwi
    12.2 pasta mewn siâp
    12.3 lasagne
    12.4 pasta sych
    12.5 pasta ffres

2. Dulliau paratoi
2.1 blansio
2.2 hidlo
2.3 cymysgu

3. Dulliau coginio
3.1 berwi
3.2 pobi
3.3 cyfuniad o ddulliau coginio

4. Dulliau Gorffen
4.1 garneisio
4.2 gyda saws
4.3 cyflwyno


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PC19

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin

Cod SOC

5434

Geiriau Allweddol

paratoi, coginio, gorffen, sylfaenol, pasta