Paratoi, coginio a gorffen sawsiau a dresinau sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi, coginio a gorffen sawsiau a dresinau sylfaenol, er enghraifft:
• grefi wedi’i dewychu (jus lié)
• grefi rhost (jus rôti)
• grefi cyrri
• saws gwyn (béchamel)
• saws brown (demi glace)
• velouté
• purée
• saws menyn (beurre blanc, beurre noisette)
• saws wedi’i emwlseiddio
• vinaigrette
Mae’r safon yn ymwneud â’r amrywiol ddulliau paratoi, nifer o ddulliau coginio, yna sut i orffen saws neu ddresin.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi, coginio a gorffen sawsiau a dresinau sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi, coginio a gorffen sawsiau a dresinau sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen i’w paratoi
- Gwirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi, coginio a gorffen y saws neu’r dresin
- Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi, coginio a gorffen y saws neu’r dresin
- Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y saws neu’r dresin
- Coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y saws neu’r dresin, lle bo angen
- Sicrhau bod gan y saws neu’r dresin y blas, y lliw, yr ansawdd, y tewychedd a’r gorffeniad cywir
- Cyflwyno’r saws neu’r dresin i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y saws neu’r dresin ar y tymheredd cywir i’w ddal a’i weini
- Storio unrhyw saws neu ddresin a goginiwyd / a baratowyd na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o sawsiau a dresinau sylfaenol a’u nodweddion
- Y defnydd diogel a chywir o alcohol mewn sawsiau a dresinau a pham mae’n cael ei ddefnyddio
- Sut i wirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion y saws neu’r dresin
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cynhwysion sawsiau a dresinau
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhwysion ar gyfer sawsiau a dresinau sylfaenol, ac i bwy
- Yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi, coginio a gorffen gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi, coginio a gorffen yn unol â gofynion y saig
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir wrth baratoi, coginio a gorffen sawsiau a dresinau sylfaenol
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio sawsiau a dresinau (pan fo angen) a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
- Sut i gyflwyno sawsiau a dresinau
- Sut i wirio ac addasu saws neu ddresin i wneud yn siŵr bod ganddo’r blas, y lliw, yr ansawdd, y tewychedd a’r gorffeniad cywir
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini sawsiau a dresinau
- Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio sawsiau a dresinau na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth wneud sawsiau a dresinau
Cwmpas/ystod
1. Dulliau paratoi
14.1 pwyso / mesur
14.2 torri
14.3 chwisgo
2. Dulliau coginio
2.1 mudferwi
2.2 berwi
2.3 gwneud roux
3. Cynhyrchion
3.1 sawsiau poeth
3.2 sawsiau oer
3.3 dresinau
4. Dulliau gorffen
4.1 rhoi trwy liain / hidlo / blendio
4.2 sgimio
4.3 ychwanegu hufen
4.4 ychwanegu tewychydd
4.5 gwneud pureé
4.6 lleihau