Gwneud stociau sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gwneud stociau sylfaenol, er enghraifft:
• brown
• pysgod
• gwyn
• llysiau
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r camau sy’n ofynnol i wneud amrywiaeth o stociau sylfaenol.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i wneud stociau sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Wneud stociau sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o gynhwysion a faint sydd eu hangen i’w paratoi
- Gwirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i wneud y stoc
- Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth wneud y stoc
- Paratoi’r cynhwysion i fodloni gofynion y stoc
- Coginio’r cynhwysion i fodloni gofynion y stoc
- Sicrhau bod gan y stoc y blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei faint yn gywir
- Storio unrhyw stoc a goginiwyd na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o stociau sylfaenol a’u nodweddion
- Sut i wirio bod y cynhwysion yn bodloni gofynion
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn cynhwysion stoc
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r cynhwysion ar gyfer stociau, ac i bwy
- Yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi a choginio gofynnol
- Sut i gyflawni pob un o’r dulliau paratoi a choginio yn unol â gofynion
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir wrth wneud stociau sylfaenol
- Y tymereddau cywir ar gyfer gwneud stociau sylfaenol a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
- Sut i wirio ac addasu stoc i sicrhau bod ganddo’r blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei faint yn gywir
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal stociau
- Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio stociau na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth wneud stociau
Cwmpas/ystod
1. Stociau
12.1 brown
12.2 pysgod
12.3 llysiau
12.4 gwyn
2. Dulliau paratoi a choginio
2.1 pwyso / mesur
2.2 brownio / rhostio
2.3 mudferwi
2.4 berwi
2.5 lleihau
2.6 sgimio
2.7 hidlo