Paratoi offal ar gyfer seigiau sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi offal ar gyfer seigiau sylfaenol.
Mae’r safon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi ac mae’n cynnwys pob math o offal, gan gynnwys yr afu/iau, yr aren, y boch a’r cefndedyn.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi offal ar gyfer seigiau sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi offal ar gyfer seigiau sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o offal a faint sydd ei angen i’w baratoi
- Gwirio bod yr offal yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
- Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi’r offal
- Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi’r offal
- Paratoi’r offal i fodloni gofynion y saig
- Storio unrhyw offal a baratowyd na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o offal a ddefnyddir yn gyffredin a sut i’w hadnabod
- Sut i wirio bod yr offal yn bodloni gofynion
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn offal ffres
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r offal neu gynhwysion eraill, ac i bwy
- Yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol
- Sut i gyflawni’r dulliau paratoi yn gywir
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir wrth baratoi’r offal
- Sut i storio offal a baratowyd yn gywir
- Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi offal
Cwmpas/ystod
1. Offal
1.1 yr afu/iau
1.2 yr aren
1.3 cefndedyn
1.4 boch
2. Dulliau paratoi
2.1 torri / sleisio
2.2 marinadu / sesno
2.3 caenu â blawd
2.4 tynnu’r croen
2.5 trimio a thynnu gwythiennau
2.6 blendio / briwio
2.7 mwydo mewn dŵr halen
2.8 cywasgu