Coginio a gorffen seigiau helgig sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â choginio a gorffen seigiau helgig sylfaenol, er enghraifft:
• stiw cwningen
• clun cig carw
• ffesant rhost
Mae’r safon hon yn cynnwys helgig ffwr a phlu, nifer o ddulliau coginio ac yna, mae’n mynd ymlaen i ddisgrifio dulliau gorffen ar gyfer seigiau helgig.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i goginio a gorffen seigiau helgig sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Goginio a gorffen seigiau helgig sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwirio bod yr helgig yn bodloni gofynion y saig
- Dewis yr offer a’r cyfarpar cywir i goginio a gorffen yr helgig.
- Defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn gywir wrth goginio a gorffen yr helgig
- Cyfuno’r helgig â chynhwysion eraill
- Coginio’r helgig i fodloni gofynion y saig
- Sicrhau bod gan y saig y blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
- Garneisio a chyflwyno’r saig i fodloni gofynion
- Sicrhau bod y saig ar y tymheredd cywir i’w dal a’i gweini
- Storio unrhyw helgig wedi’i goginio na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i wirio bod yr helgig yn bodloni gofynion y saig
- Pa fathau o helgig sydd ar gael ym mha dymhorau
- Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn amrywiaeth o helgig
- Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r helgig neu gynhwysion eraill, ac i bwy
- Yr offer a’r cyfarpar cywir ar gyfer cyflawni’r dulliau coginio gofynnol
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir
- Sut i gyflawni’r dulliau coginio yn unol â gofynion y saig
- Pam mae’n bwysig defnyddio’r dulliau coginio a gorffen cywir ar gyfer pob math o helgig
- Sut i gadw helgig rhag sychu yn ystod coginio a gorffen
- Y tymereddau cywir ar gyfer coginio helgig a pham mae’r tymereddau hyn yn bwysig
- Sut i gyflawni’r dulliau gorffen
- Sut i wirio ac addasu saig helgig i sicrhau bod ganddi’r blas, y lliw a’r tewychedd cywir, a bod ei maint yn gywir
- Y tymereddau cywir ar gyfer dal a gweini seigiau helgig
- Y tymereddau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer storio seigiau helgig na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith
- Opsiynau bwyta’n iach wrth goginio a gorffen helgig
Cwmpas/ystod
1. Helgig
15.1 ffwr
15.2 plu
2. Dulliau coginio
2.1 selio
2.2 grilio
2.3 ar gridyll
2.4 sauté
2.5 rhostio
2.6 ffrio (bas / dwfn)
2.7 brwysio
2.8 stiwio
2.9 cyfuno dulliau coginio
3. Dulliau gorffen
3.1 garneisio
3.2 gyda saws
3.3 cyflwyno