Paratoi helgig ar gyfer seigiau sylfaenol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi helgig ar gyfer seigiau sylfaenol.
Mae’r safon hon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi sy’n gysylltiedig â mathau ffwr a phlu o helgig.
Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi helgig ar gyfer seigiau sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
•   Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
•   Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
•   Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
•   Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
•   Baratoi helgig ar gyfer seigiau sylfaenol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dewis y math o helgig a faint sydd ei angen i’w baratoi
 - Gwirio bod yr helgig yn bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
 - Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi’r helgig
 - Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi’r helgig
 - Paratoi’r helgig i fodloni gofynion y saig
 - Storio unrhyw helgig a baratowyd na fydd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Gwahanol fathau o helgig wedi’i flingo (tynnu’r croen) ac wedi’i blufio a ddefnyddir yn gyffredin a sut i’w hadnabod
 - Darnau cyffredin o helgig
 - Sut i wirio bod yr helgig yn bodloni gofynion
 - Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn helgig ffres
 - Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r helgig neu gynhwysion eraill, ac i bwy
 - Yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni’r dulliau paratoi gofynnol
 - Sut i gyflawni’r dulliau paratoi yn gywir
 - Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir wrth baratoi’r helgig
 - Sut i storio helgig a baratowyd yn gywir
 - Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi helgig
 
Cwmpas/ystod
1. Helgig
10.1    ffwr
10.2    plu
2.    Dulliau paratoi
2.1 gwirio a pharatoi’r ceudod
2.2 chwilio am beledi/haels a’u gwaredu
2.3 sesno/marinadu
2.4 trimio
2.5 torri (yn ddognau / deisio / trimio)
2.6 stwffio / llenwi
2.7 clymu