Paratoi llysiau ar gyfer seigiau sylfaenol

URN: PPL2PC1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch - Coginio Proffesiynol
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi llysiau gan ddefnyddio dulliau
paratoi sylfaenol.

Mae’r safon hon yn ymwneud ag amrywiaeth o ddulliau paratoi sy’n gysylltiedig â llysiau, gan gynnwys y toriadau Ffrengig traddodiadol a phob math o lysiau.

Mae’r safon hon yn canolbwyntio ar y wybodaeth a’r sgiliau technegol y mae eu hangen i baratoi llysiau ar gyfer seigiau sylfaenol; fodd bynnag, dylid ei hasesu yng nghyd-destun ehangach arferion gweithio diogel a hylan. Argymhellir cyfeirio at yr NOS canlynol, a ddewisir am eu bod yn briodol i’r rôl ac i’r sefydliad, ar y cyd â’r sgiliau a’r wybodaeth dechnegol ar gyfer y safon:
• Cynnal diogelwch bwyd sylfaenol mewn arlwyo
• Cynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd cegin
• Rhoi cyngor sylfaenol ar alergenau i gwsmeriaid
• Lleihau risg alergenau i gwsmeriaid

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Baratoi llysiau ar gyfer seigiau sylfaenol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis y math o lysiau a faint sydd eu hangen i’w paratoi
  2. Gwirio bod y llysiau’n bodloni gofynion ansawdd a gofynion eraill
  3. Dewis yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir sy’n ofynnol i baratoi’r llysiau
  4. Defnyddio’r offer, y cyllyll a’r cyfarpar yn gywir wrth baratoi’r llysiau
  5. Paratoi’r lysiau i fodloni gofynion y saig
  6. Storio unrhyw lysiau a baratowyd na fyddant yn cael eu defnyddio ar unwaith yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gwahanol fathau o lysiau a ddefnyddir yn gyffredin a sut i’w hadnabod
  2. Sut i wirio bod y llysiau yn bodloni gofynion
  3. Pa bwyntiau ansawdd i chwilio amdanynt mewn llysiau ffres
  4. Pa wahanol lysiau ffres sydd ar gael yn ystod pob tymor
  5. Pam dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r llysiau neu gynhwysion eraill, ac i bwy
  6. Yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir i gyflawni pob dull paratoi
  7. Sut i gyflawni pob dull paratoi yn gywir
  8. Pam mae’n bwysig defnyddio’r technegau, yr offer, y cyllyll a’r cyfarpar cywir wrth baratoi llysiau
  9. Sut i gynnal golwg ac ansawdd llysiau yn ystod eu paratoi
  10. Sut i storio llysiau a baratowyd yn gywir
  11. Opsiynau bwyta’n iach wrth baratoi llysiau

Cwmpas/ystod

1. Llysiau
11.1 gwreiddlysiau
11.2 bylbiau
11.3 fflurbennau
11.4 ffyngau
11.5 hadau a chodennau
11.6 cloron
11.7 dail
11.8 coesynnau
11.9 ffrwyth-lysiau

2. Dulliau paratoi
2.1 golchi
2.2 plicio
2.3 ailolchi
2.4 torri
2.5 toriadau Ffrengig traddodiadol:
• Julienne
• Brunoise
• Macédoine
• Jardinière
• Mirepoix
• Paysanne
2.6 sleisio
2.7 trimio
2.8 troi (tournée)
2.9 gratio


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPL2PC1

Galwedigaethau Perthnasol

Cogydd

Cod SOC

9263

Geiriau Allweddol

paratoi, llysiau, seigiau, sylfaenol